Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/02/2024 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 1.2 Nododd y Cadeirydd fod yn rhaid i James Evans AS
adael y cyfarfod am 11.30. |
|
(09.30 - 11.00) |
Gwaith craffu cyffredinol ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles AS,
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Owain Lloyd,
Cyfarwyddwr y Gymraeg ac Addysg, Llywodraeth Cymru Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr
Addysg Drydyddol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog yn y
meysydd o fewn ei bortffolio. 2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y canlynol: - Edrych ymhellach
ar ddata Rhwydwaith Seren mewn perthynas â'r disgyblion hynny nad ydynt
efallai'n parhau ar y rhaglen, i nodi a oes unrhyw dueddiadau mewn perthynas
â'u perfformiad dilynol a'u hymgysylltiad â'u dysgu; - Darparu rhagor o
wybodaeth am sut y gellir annog a chynyddu'r niferoedd sy'n astudio Cymraeg
Safon Uwch, yn enwedig mewn perthynas ag addysgu a chynnwys y maes llafur; - Darparu gwybodaeth
am yr ymchwil a wnaed, a’r canllawiau a gyhoeddwyd, ynglŷn â sut y
gallai ysgolion ddarparu addysgu a dysgu digidol o bell pe bai angen am hyn eto
yn y dyfodol; - Cadarnhau pryd y
rhagwelir y cyhoeddir y canllawiau cryfach ar Deithio gan Ddysgwyr; - Ystyried ymhellach
sut y gellir adrodd yn ôl ar waith y Tasglu Presenoldeb i’r Senedd a/neu’r
Pwyllgor; - Rhannu'r data
cyfranogiad e-sgol; a - Rhannu, pan fydd
ar gael, gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y dull ysgol gyfan. |
|
(11.00) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Dyfodol Dur yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth gan Randdeiliaid Dogfennau ategol: |
||
Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical Dogfennau ategol: |
||
(11.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a'r cyfarfod cyfan ar 7 Mawrth Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.10 - 11.30) |
Gwaith craffu cyffredinol ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywodd yn y
sesiwn graffu. 5.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog i
wneud gwaith dilynol ar rai o'r pwyntiau a godwyd. |
|
(11.30 - 12.15) |
Y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Byddai
fersiwn ddiwygiedig yn cael ei thrafod yng nghyfarfod yr wythnos nesaf. |