Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/05/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

1.3 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams AS fod ei gŵr yn cael ei gyflogi gan Brifysgol Abertawe.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Gwrandawiad cyn-penodi Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil

Simon Pirotte

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymgeisydd a benodwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

(10.30)

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

3.1

Gweithredu diwygiadau addysg

Dogfennau ategol:

3.2

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

3.3

Gwybodaeth gan Randdeiliaid

Dogfennau ategol:

3.4

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Mewnfudo Anghyfreithlon

Dogfennau ategol:

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig

 

(10.30 - 11.00)

5.

Gwrandawiad cyn-penodi Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil - ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod y sesiwn flaenorol. Cytunwyd y byddai drafft diwygiedig o’r adroddiad yn cael ei gylchredeg a’i drafod eto yn y cyfarfod ar 7 Mehefin. 

5.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn am ddata ar benodiadau gweinidogol uniongyrchol.

 

(11.00 - 11.15)

6.

Sesiwn i graffu ar waith Gweinidogion - trafod y dull gweithredu

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull gweithredu ar gyfer y seswn graffu ar y cyd. Byddai llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru yn rhoi braslun o’r meysydd penodol i’w trafod yn ystod y sesiwn.