Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/02/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00 - 10.15) |
Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical - digwyddiadau i randdeiliaid [gwahoddedig yn unig] Bydd digwyddiad
preifat i randdeiliaid i drafod ail thema’r ymchwiliad, ‘Mewn gofal:
Gwasanaethau o safon a chefnogaeth i blant mewn gofal’. Cofnodion: 1.1 Mae’r Aelodau'n cyfarfod â gweithwyr proffesiynol ac
academyddion i drafod ansawdd gwasanaethau a chefnogaeth i blant mewn gofal. |
|
(10.45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(10.45 - 11.30) |
Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical - sesiwn dystiolaeth 3. Sarah Thomas,
Cyfarwyddwr, Rhwydwaith Maethu Cymru Matt Lewis,
Rheolwr Gwasanaethau Maethu Therapiwtig Cymru, Gweithredu dros Blant Rhian Carter,
Rheolwr Tîm, Gweithredu dros Blant Mike Anthony,
Rheolwr, TACT Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gweithredu dros
Blant, y Rhwydwaith Maethu a TACT Cymru. |
|
(11.35 - 12.15) |
Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical - sesiwn dystiolaeth 4. Deborah Jones,
Prif Weithredwr, Voices from Care Emma
Phipps-Magill, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Voices from Care Sharon Lovell,
Prif Swyddog Gweithredol, NYAS Cymru Ben Twomey,
Cyfarwyddwr Polisi a Chyfathrebu, NYAS Cymru
Jackie Murphy, Prif
Weithredwr, Tros Gynnal Plant, Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Voices from Care,
Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) Cymru a Tros Gynnal Plant
Cymru. 4.2 Cytunodd NYAS Cymru i roi ystadegau i'r Pwyllgor yn
ymwneud â nifer y plant a phobl ifanc sydd mewn llety heb ei reoleiddio. 4.3 Cytunodd Voices from Care i ddarparu adroddiad drafft
i’r Pwyllgor ar yr ymchwil a wnaed o dan y Cynllun Pan Fydda i’n Barod. |
|
(12.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 6 a 9 o'r cyfarfod hwn. Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.15 - 12.30) |
Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical - trafod y dystiolaeth. Cofnodion: 6.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn
ystod y sesiynau blaenorol. |
|
(13.30 - 14.30) |
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2021 - 2022 Owen Evans, Prif
Arolygwr Ei Fawrhydi, Estyn Claire Morgan,
Cyfarwyddwr Strategol, Estyn Jassa Scott,
Cyfarwyddwr Strategol, Estyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar Estyn ynghylch ei
Adroddiad Blynyddol. 7.2 Cytunodd Estyn i ddarparu canfyddiadau darn o waith
thematig sy'n cael ei wneud ar weithredu'r system ddiwygio Anghenion Dysgu
Ychwanegol newydd i'r Pwyllgor pan fydd ar gael. |
|
(14.30) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 8.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol Dogfennau ategol: |
||
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol Dogfennau ategol: |
||
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol Dogfennau ategol: |
||
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymysg dysgwyr Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth gan randdeiliad Dogfennau ategol: |
||
Anghydraddoldebau iechyd meddwl Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol: |
||
(14.30 - 14.40) |
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2020 – 2021: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 9.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn
ystod y sesiwn flaenorol gydag Estyn. |