Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/10/2024 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS. Roedd Alun Davies AS yn dirprwyo ar ran Hefin o 10.30am ymlaen.

1.3 Croesawodd y Cadeirydd Lee Walters AS o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i’r cyfarfod.

1.4 O dan Reol Sefydlog 17.24A datganodd Cefin Campbell AS fuddiant gan y bu’n rhan o’r gwaith o ddatblygu Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru).

 

(09.30 - 10.30)

2.

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 13

Dona Lewis, Prif Weithredwr, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Meinir Ebbsworth, Cyfarwyddwr Strategol, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Rebecca Williams, Uwch-reolwr Sgiliau Iaith a Chynllunio Gweithlu, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

2.2 Cytunodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu rhagor o wybodaeth am fynd i’r afael â’r heriau gweithlu o ran rhoi’r Bil ar waith, yn enwedig yr hyn y byddai angen gwneud nad yw wedi’i gynnwys yn y Bil. 

 

(10.45 - 11.30)

3.

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 14

Rhian Edwards, Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi, Medr (Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Medr.

3.2 Cytunodd Medr i ddarparu nodyn ar y gwelliannau sydd eu hangen i roi eglurder yn y Bil o ran sut y bydd gwahanol sefydliadau yn cyflawni eu dyletswyddau a rhagor o wybodaeth am yr adnoddau tebygol sydd eu hangen i uwchsgilio’r gweithlu i gyflawni uchelgeisiau’r Bil.

 

(11.35 - 12.35)

4.

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 15

Jonathan Morgan, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg y Cymoedd yn cynrychioli ColegauCymru

Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr, Prifysgolion Cymru [ar Zoom]

Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru [ar Zoom]

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan ColegauCymru, Prifysgolion Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

4.2 Cytunodd Prifysgolion Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth mewn perthynas â Rhan 3 o'r Bil ar faterion yn ymwneud â llwybrau a dilyniant i addysg uwch.

 

(12.35)

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

5.1

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Dogfennau ategol:

5.2

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Dogfennau ategol:

5.3

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Dogfennau ategol:

5.4

Gwybodaeth gan Randdeiliaid

Dogfennau ategol:

5.5

Gwybodaeth gan Randdeiliaid

Dogfennau ategol:

5.6

Gwybodaeth gan Randdeiliaid

Dogfennau ategol:

5.7

A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?

Dogfennau ategol:

5.8

Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu pobl ifanc yn yr ystâd cyfiawnder ieuenctid

Dogfennau ategol:

5.9

Plant a phobl ifanc sydd ar yr ymylon

Dogfennau ategol:

5.10

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Dogfennau ategol:

5.11

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Dogfennau ategol:

(12.35)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.35 - 12.55)

7.

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn y sesiynau blaenorol.