Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/09/2024 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS a Jack Sargeant AS, roedd Julie Morgan yn dirprwyo ar ran Jack a Lesley Griffiths AS yn dirprwyo ar ran Hefin.

1.3 O dan Reol Sefydlog 17.24A datganodd Cefin Campbell AS fuddiant gan y bu’n rhan o’r gwaith o ddatblygu Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru).

 

(09.30 - 11.00)

2.

Plant a Phobl Ifanc sydd ar yr ymylon: sesiwn dystiolaeth

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Taryn Stephens, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Galluogi Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru.

2.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch a oes unrhyw amrywiadau rhanbarthol mewn perthynas ag atgyfeiriadau camfanteisio troseddol.

2.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am y materion a ganlyn:

- ffigurau 2024 ar nifer y gweithwyr cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru;

- ffigurau 2024 ar y niferoedd sy'n mynd drwy hyfforddiant gwaith cymdeithasol;

- pa mor aml y mae byrddau diogelu yn cyfarfod;

- canlyniadau trafodaethau gyda Gweinidog diogelu y DU ar 23 Hydref 2024 ynghylch argymhellion Adolygiad Jay. 

 

(11.15 - 12.45)

3.

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 1

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

Iwan Roberts, Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 1.2 Croesawodd y Cadeirydd Heledd Fychan AS a Lee Waters AS o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, a ymunodd â'r cyfarfod o dan Reol Sefydlog 17.49 ar gyfer Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru).

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AS, yr Aelod sy’n gyfrifol.

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu nodyn ar y canlynol:

-       Y gofynion ar gyfer ymgynghori yn y Bil ac, yn benodol, mewn perthynas ag ymgynghori ac ymgysylltu â chymunedau;

-       Ystyriaeth benodol o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) wrth ddatblygu’r Bil ac ym mha ffordd y cafodd ei Erthyglau ystyriaeth uniongyrchol yn yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant.

 

(12.45)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.1

Plant a Phobl Ifanc sydd ar yr ymylon

Dogfennau ategol:

4.2

Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Dogfennau ategol:

4.3

Gwybodaeth gan randdeiliaid

Dogfennau ategol:

4.4

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Dogfennau ategol:

4.5

Plant a Phobl Ifanc sydd ar yr ymylon

Dogfennau ategol:

4.6

Plant a Phobl Ifanc sydd ar yr ymylon

Dogfennau ategol:

4.7

Plant a Phobl Ifanc sydd ar yr ymylon

Dogfennau ategol:

4.8

Plant a Phobl Ifanc sydd ar yr ymylon

Dogfennau ategol:

4.9

Plant a Phobl Ifanc sydd ar yr ymylon

Dogfennau ategol:

4.10

Plant a Phobl Ifanc sydd ar yr ymylon

Dogfennau ategol:

4.11

Plant a phobl ifanc sydd ar yr ymylon

Dogfennau ategol:

4.12

Recriwtio a chadw athrawon

Dogfennau ategol:

4.13

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Dogfennau ategol:

(12.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.45 - 13.00)

6.

Trafod y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiynau tystiolaeth blaenorol.

Cofnodion:

6.1 Trafododd Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol. 

 

(13.00 - 13.15)

7.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 – trafod y cwmpas a’r dull gweithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Gan fod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod yn y cyfarfod nesaf.