Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/12/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00 - 09.30) |
Gwaith yn dilyn yr ymchwiliad i wasanaethau ar gyfer plant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical Cofnodion: 1.1
Trafododd y Pwyllgor feysydd gwaith
yn dilyn yr ymchwiliad i ofal. Cytunodd ar y canlynol: - cynnal ymchwiliad i “blant ar yr ymylon”
gyda’r edefyn cyntaf yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc sydd ar goll a
phlant a phobl ifanc y camfanteisir arnynt yn droseddol; - cynnal sesiwn graffu gyda Gofal Cymdeithasol Cymru; - a sesiwn graffu flynyddol gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. 1.2 Cytunodd hefyd i wahodd Aelodau’r Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r sesiynau craffu gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
ac Arolygiaeth Gofal Cymru. |
|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. |
|
(09.30 - 10.45) |
Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 1 Sam Rowlands AS,
yr Aelod sy’n Gyfrifol Dr Dave Harvey, Staff
Cymorth Aelodau o’r Senedd Michael Dancey,
Uwch Ymchwilydd Jen Cottle,
Cynghorydd Cyfreithiol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sam Rowlands AS. |
|
(11.00 - 12.00) |
Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 2 Ceren Roberts,
Cyfarwyddwr Canolfan Breswyl Caerdydd, Urdd Gobaith Cymru Geraint Williams,
Dirprwy Gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Caerdydd, Urdd Gobaith Cymru Graham French,
Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor, Cadeirydd rhanbarth Gogledd
Cymru y Gymdeithas Penaethiaid Canolfannau Addysg Awyr Agored a Chadeirydd
pwyllgor rhanbarthol Gogledd Cymru y Sefydliad Dysgu Awyr Agored Clare Adams,
Cynghorydd Addysg Awyr Agored ar gyfer Cyngor Sir Fynwy, ac yn cynrychioli
Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru a Lloegr Mike Rosser,
Cynghorydd Ymweliadau Addysgol Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, ac
Arweinydd Prosiect ar gyfer adolygiad Llywodraeth Cymru o Hyfforddiant
Arweinwyr Ymweliadau mewn Colegau AB, ac yn cynrychioli Panel Cynghorwyr Addysg
Awyr Agored Cymru a Lloegr Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr yr
Urdd, y Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored a'r Sefydliad Dysgu Awyr Agored. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion: 5.1 Cafodd y papurau eu nodi. 5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog y
Gymraeg ac Addysg i gael rhagor o wybodaeth am y ddarpariaeth o brydau ysgol am
ddim yn ystod y gwyliau |
||
Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Costau byw Dogfennau ategol: |
||
A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? Dogfennau ategol: |
||
Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 Dogfennau ategol: |
||
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.00 - 12.10) |
Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod
y sesiynau blaenorol. |
|
(12.10 - 12.30) |
Gweithredu diwygiadau addysg - trafod y camau nesaf Cofnodion: 8.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, symudwyd yr eitem hon i
agenda'r wythnos nesaf. |