Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfeirnod: Hybrid 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/05/2025 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

 

(09.15 - 09.30)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2. Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

2.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, ynghylch Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill).

Dogfennau ategol:

2.2

Ymateb Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, i Gadeiryddion y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill).

Dogfennau ategol:

2.3

Llythyr gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru at y Cadeirydd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion 8 a 10 o’r adroddiad ‘Craffu ar Gyfrifon: Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 2022-23’

Dogfennau ategol:

2.4

Llythyr gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Ynni a Thrafnidiaeth – Llywodraeth Cymru, ynghylch Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru

Dogfennau ategol:

2.5

Llythyr gan Dr Andrew Goodall, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, ynghylch Craffu ar Gyfrifon Llywodraeth Cymru 2023-24

Dogfennau ategol:

2.6

Ymateb gan Dr Tracey Cooper, Iechyd Cyhoeddus Cymru, i'r Cadeirydd ynghylch gwasanaethau canser yng Nghymru

Dogfennau ategol:

(09.35 - 10.35)

3.

Gwasanaethau canser yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru

Dr Keith Reid, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol - Iechyd Cyhoeddus

Yr Athro Tom Crosby OBE, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru

Iain Hardcastle, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cynllunio a Chynllunio at Argyfwng, Gweithrediaeth GIG Cymru

 

 

Briff ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Judith Paget,  Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru.

 

(10.45 - 11.45)

4.

Gwasanaethau canser yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru (parhad)

Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru

Dr Keith Reid, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol - Iechyd Cyhoeddus

Yr Athro Tom Crosby OBE, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru

Iain Hardcastle, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cynllunio a Chynllunio at Argyfwng, Gweithrediaeth GIG Cymru

 

Cofnodion:

4.1 Parhaodd y Pwyllgor â'i sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru.

 

(11.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.45 - 12.00)

6.

Gwasanaethau canser yng Nghymru: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.