Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/03/2024 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Darlledir y cyfarfod hwn yn fyw ar www.senedd.tv

(09:30-09:45)

(Rhag-gyfarfod preifat)

(9:45)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.

1.2         Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS ac Adam Price AS.

1.3         Roedd Carolyn Thomas AS yn bresennol yn y cyfarfod fel dirprwy ar ran Rhianon Passmore AS.

 

(9:45)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 3 ar agenda'r cyfarfod.

Cofnodion:

2.1 Derbyniwyd y cynnig

 

(9:45-10:30)

3.

Briff gan Archwilio Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cofnodion:

3.1 Cafodd yr Aelodau bapur briffio gan Archwilio Cymru.

 

(10:30-12:00)

4.

Sesiwn dystiolaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

-       Dyfed Edwards – Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

-       Carol Shillabeer – Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Dogfennau ategol

-       Papur Briffio Archwilio Cymru

-       Adroddiad Archwilio Cymru ar Dilynol ar Effeithiolrwydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

-       Ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i Adroddiad Archwilio Cymru Dilynol ar Effeithiolrwydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Saesneg yn Unig)

-       Papur Tystiolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

(12:00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12:10-12:30)

6.

Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i gadw llygad ar y cynnydd, ac y byddai'n ysgrifennu at y bwrdd iechyd i ofyn am ragor o eglurhad ynghylch amseriadau ar gyfer adroddiadau effeithiolrwydd dilynol.

 

(12:30-13:00)

7.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol

-       Blaenraglen Waith

-       Adroddiad Archwilio Cymru: O Ymdrin â Heriau Wrth Iddynt Godi i Ddiogelu at y Dyfodol – yr Her i Wasanaethau Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Gohiriwyd y gwaith o ystyried y Flaenraglen Waith nes cyfarfod nesaf y Pwyllgor.