Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/11/2025 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00 - 09.15)

Cofrestru

(09.15 - 09.30)

Rhag-gyfarfod preifat

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

(09.30)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

2.1

PTN 1 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Cronfa Twf Lleol - 7 Tachwedd 2025

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 - Llythyr gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Adroddiadau blynyddol Ysgrifenyddiaeth Cysylltiadau Rhynglywodraethol Annibynnol ar gyfer 2022-23 a 2023-24 - 11 Tachwedd 2025

Dogfennau ategol:

2.3

PTN 3 - Llythyr gan Gonffederasiwn GIG Cymru - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27: Pwysau chwyddiant - 11 Tachwedd 2025

Dogfennau ategol:

2.4

PTN 4 - Llythyr gan CLlLC - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27: Pwysau chwyddiant - 12 Tachwedd 2025

Dogfennau ategol:

2.5

PTN 5 - Ymateb Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb Comisiwn y Senedd 2026-27 - 11 Tachwedd 2025

Dogfennau ategol:

(09.30 -10.30)

3.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27: Sesiwn dystiolaeth 6

Yr Athro Melanie Jones, Arweinydd Academaidd, Fforwm Cynhyrchiant Cymru

Yr Athro Arnab Bhattacharjee, Modelu Rhanbarthol a Microefelychu, Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27, gan Yr Athro Melanie Jones, Arweinydd Academaidd, Fforwm Cynhyrchiant Cymru; a Yr Athro Arnab Bhattacharjee, Modelu Rhanbarthol a Microefelychu, Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

(10.30 - 10.45)

Egwyl

(10.45 - 11.45)

4.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27: Sesiwn dystiolaeth 7

Marc Strathie, Uwch gynghorydd polisi datganoledig, Sefydliad y Cyfarwyddwyr

Josh Miles, Pennaeth Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru

Sara Jones, Pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27, gan Marc Strathie, Uwch gynghorydd polisi datganoledig, Sefydliad y Cyfarwyddwyr; Josh Miles, Pennaeth Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru; a Sara Jones, Pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru.

(11.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 6, 7, 8 a 10.

Cofnodion:

5.1  Derbyniwyd y cynnig.

(11.45 - 12.00)

6.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

(12.00 - 12.15)

7.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Craffu ar yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2024-25, a’r Amcangyfrif ar gyfer 2026-27: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunwyd arno heb ddim newidiadau.

(12.15 - 12.30)

8.

Gwaith craffu blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunwyd arno heb ddim newidiadau.

(12.30 - 13.00)

Egwyl

(13.00 - 14.00)

9.

Goblygiadau ariannol Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth

Julie James AS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Ryan Price, Pennaeth Polisi y Senedd, Llywodraeth Cymru

Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio’r Senedd, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol

Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau), fel y’i cyflwynwyd

(PDF, 336KB)

 

Memorandwm Esboniadol (PDF, 1.9MB)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar oblygiadau ariannol Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) gan Julie James AS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni; Ryan Price, Pennaeth Polisi y Senedd, Llywodraeth Cymru; a Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio’r Senedd, Llywodraeth Cymru.

(14.00 - 14.15)

10.

Goblygiadau ariannol Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.