Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2025-26 a'r Amcangyfrif ar gyfer 2026-27
Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2025-26 a'r Amcangyfrif ar gyfer 2026-27
Archwilio Cymru
yw nod masnachu dau endid cyfreithiol o dan Ddeddf Archwilio
Cyhoeddus (Cymru) 2013: Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio
Cymru.
Mae gan bob un ei
bwerau a'i ddyletswyddau penodol ei hun:
>>>>
>>>Mae'r
Archwilydd Cyffredinol yn archwilio ac yn adrodd ar gyrff cyhoeddus Cymru.
>>>Mae
Swyddfa Archwilio Cymru yn darparu staff ac adnoddau eraill ar gyfer gwaith yr
Archwilydd Cyffredinol, ac yn monitro ac yn rhoi cyngor i’r Archwilydd
Cyffredinol.
<<<
Rhaid i Swyddfa
Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y cyd osod eu hamcangyfrif o
incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gerbron y Senedd, fel sy’n
ofynnol o dan Adran 20 o Ddeddf
Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. O dan Reol
Sefydlog 20.22, rhaid i’r Pwyllgor
Cyllid graffu ar eu hamcangyfrif, a gosod adroddiad gerbron y Senedd sy’n
cynnwys yr amcangyfrif, gydag unrhyw addasiadau y mae’n eu hystyried yn
briodol, ar ôl ymgynghori â Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol
Cymru
Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/08/2025