Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/07/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
(09.00-09.15) |
Cofrestru |
|
(09.15-09.30) |
Rhag-gyfarfod preifat |
|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Cyllid. |
|
(09.30) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 2.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor
Deisebau a chytunwyd i ysgrifennu’n ôl gyda gwybodaeth am y broses graffu ar
Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26. |
|
|
PTN 1 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau: Deiseb P-06-1437 Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a'r Comisiwn Brenhinol - 26 Mehefin 2024 Dogfennau ategol: |
||
(09.30-10.30) |
Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol: Sesiwn dystiolaeth 8 Rebecca Evans MS,
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet Sarah Govier, Pennaeth
Cysylltiadau Rhynglywodraethol, Trysorlys Cymru Julian Revell, Pennaeth
Dadansoddiad Ariannol, Trysorlys Cymru Dogfennau
ategol: FIN(6)-15-24 P1 -
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Papur tystiolaeth Briff Ymchwil y
Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Fel rhan o’i ymchwiliad i Gysylltiadau
Rhynglywodraethol Cyllidol, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans
AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet;
Sarah Govier, Pennaeth Cysylltiadau Rhynglywodraethol, Trysorlys Cymru; a
Julian Revell, Pennaeth Dadansoddiad Cyllid, Trysorlys Cymru. |
|
(10.30-10.45) |
Egwyl |
|
(10.45-11.45) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth Dawn Bowden AS, Y
Gweinidog Gofal Cymdeithasol Alistair Davey, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Galluogi Pobl, y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac
Integreiddio Anthony Jordan, Pennaeth
Gweithredu’r Rhaglen a’r Ddeddfwriaeth, y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau
Cymdeithasol ac Integreiddio Dogfennau
ategol: Briff Ymchwil y
Senedd Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar oblygiadau ariannol
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) gan Dawn Bowden AS, y Gweinidog Gofal
Cymdeithasol; Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyfarwyddiaeth Galluogi
Pobl, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio; ac Anthony Jordan, Pennaeth
Gweithredu’r Rhaglen Deddfwriaethol, y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
ac Integreiddio. |
|
(11.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a dechrau'r cyfarfod ar 18 Gorffennaf Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.45-11.55) |
Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. 6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet gyda chwestiynau
ychwanegol nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth. |
|
(11.55-12.05) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. 7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog gyda
chwestiynau ychwanegol nas gofynnwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth. |
|
(12.05-12.15) |
Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor nodyn y Gwasanaethau Cyfreithiol
ar Reoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi
Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024 a chytunwyd i beidio â
chymryd unrhyw gamau pellach. |
|
(12.15-12.25) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26: Adroddiad Cryno ar Ymgysylltu - y Pwyllgor Cyllid Dogfennau
ategol: FIN(6)-15-24 P3 -
Adroddiad Cryno ar Ymgysylltu - y Pwyllgor Cyllid Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Nododd y Pwyllgor ei adroddiad ymgysylltu cryno ar
graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26. |
|
(12.25-12.35) |
Ffyrdd o Weithio a Datblygu Pwyllgorau Dogfennau
ategol: FIN(6)-15-24 P4 –
Papur blaen FIN(6)-15-24 P5 –
Tîm Dysgu ac Ymgysylltu â’r Aelodau: Llyfryn hyfforddi a datblygu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar ffyrdd o weithio a
datblygu pwyllgorau, a nodwyd y llyfryn hyfforddi a datblygu a ddarparwyd gan y
Tîm Dysgu ac Ymgysylltu â’r Aelodau. |
PDF 136 KB