Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/01/2024 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofrestru (09.00-09.15)

Rhag–gyfarfod preifat (09.15-09.30)

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.

 

1.3 Roedd Huw Irranca-Davies MS yn dirprwyo ar ran Rhianon Passmore MS.

 

(09.30)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN 1 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ail Gyllideb Atodol 2023-24 - 11 Ionawr 2024

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Cyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol - 12 Ionawr 2024

Dogfennau ategol:

2.3

PTN 3 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Adolygu Protocol Proses y Gyllideb - 15 Ionawr 2024

Dogfennau ategol:

(09.30-10.00)

3.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: Sesiwn dystiolaeth 5

Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Jacob Ellis, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Allanol a Diwylliant

Rhiannon Hardiman, Natur a Newid Hinsawdd, Economi, Polisi Bwyd

 

Dogfennau ategol:

FIN(6)-02-24 P1 - Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru – Ymateb i’r Ymgynghoriad

FIN(6)-02-24 P2 - Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru - Tystiolaeth ysgrifenedig

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 gan Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru; Jacob Ellis, Cyfarwyddwr: Cysylltiadau Allanol a Diwylliant; a Rhiannon Hardiman, Arweinydd Polisi: Natur a Newid Hinsawdd, Economi, Polisi Bwyd.

 

Egwyl (10.00-10.10)

(10.10-11.10)

4.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: Sesiwn dystiolaeth 6

Sally May, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chadeirydd Grŵp Cymheiriaid Cyfarwyddwyr Cyllid

Darren Hughes, Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru

Lance Carver, Is-lywydd, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru) a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg

Carys Lord, Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr

 

Dogfennau ategol:

FIN(6)-02-24 P3 Conffederasiwn GIG Cymru

FIN(6)-02-24 P4 Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 gan Sally May, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chadeirydd Grŵp Cymheiriaid Cyfarwyddwyr Cyllid; Darren Hughes, Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru; Lance Carver, Is-lywydd, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru) a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg; a Carys Lord, Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Egwyl (11.10-11.20)

(11.20-12.20)

5.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: Sesiwn dystiolaeth 7

Cllr Anthony Hunt, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Cllr Llinos Medi, Arweinydd, Cyngor Sir Ynys Môn

Cllr Mary Ann Brocklesby, Arweinydd, Cyngor Sir Fynwy

Cllr Andrew Morgan, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

 

Dogfennau ategol:

FIN(6)-02-24 P5 - Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 gan y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen; Y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Ynys Môn; y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy; a'r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

 

Egwyl (12.20-13.15)

(13.15-15.00)

6.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: Sesiwn dystiolaeth 8

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth

 

Dogfennau ategol:

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllideb a Busnes y Llywodraeth.

 

6.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn drwy'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â chyllidebau cyfun rhwng Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol.

 

(15.00)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o’r cyfarfod ar 31 Ionawr 2024

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.00-15.15)

8.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15.15-15.30)

9.

Ceisiadau’n ymwneud â Chyllideb Atodol 2023-24 gan Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol

Dogfennau ategol:

FIN(6)-02-24 P6 – Papur blaen

FIN(6)-02-24 P7 - Ail Amcangyfrif Atodol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2023-24

FIN(6)-02-24 P8 – Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Dyfarniad cyflog Llywodraeth Leol – 11 Rhagfyr 2023

FIN(6)-02-24 P9 – Llythyr gan Archwilio Cymru: Ail Amcangyfrif Atodol 2023-24 – 6 Rhagfyr 2023

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Yn dilyn trafodaeth, cytunodd y Pwyllgor ar yr amrywiadau y gofynnwyd amdanynt i Amcangyfrif 2023-24 Archwilio Cymru; ac Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2023-24.

 

(15.30-15.45)

10.

Cynllun Ffioedd Archwilio Cymru 2024-25

Dogfennau ategol:

FIN(6)-02-24 P10 – Cynllun Ffioedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor Gynllun Ffioedd Archwilio Cymru 2024-25.