Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 30/06/2022 - Y Pwyllgor Cyllid
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (09.15-09.30) |
||
(09.30-10.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Cyllid. |
|
(09.30) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
(09.30) |
Papur i’w Nodi 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch yr amserlen ar gyfer Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 - 20 Mehefin 2022 Dogfennau ategol: |
|
Papur i’w Nodi 2 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol - 27 Mehefin 2022 Dogfennau ategol: |
||
(09.30-10.30) |
Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Emma Watkins, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Cyllid a Busnes y Llywodraeth Sharon Bounds,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaethau Ariannol Dogfennau
ategol: Cyllideb Atodol
Gyntaf Llywodraeth Cymru 2022-23 Papur Briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr
Rheolaeth Ariannol; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllideb a Busnes y
Llywodraeth ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23. 3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y
canlynol: ·
Gofyn i'r Gweinidog Addysg roi
gwybodaeth i'r Pwyllgor am gost uned wirioneddol darparu prydau ysgol am ddim. ·
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol roi gwybodaeth i’r Pwyllgor am y cyllid a ddyrannwyd
i adferiad y GIG sy’n mynd i’r afael â phwysau ar y gweithlu, ac effaith y
cyllid a ddyrannwyd ar leihau amseroedd aros y GIG. ·
Ysgrifennu at y Pwyllgor ar y
cysyniad 'dim niwed' mewn perthynas ag adleoli swyddi'r gwasanaeth sifil i
Gymru. ·
Gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol roi
gwybodaeth i'r Pwyllgor am 'Llywodraeth Cymru 2025', mewn perthynas â swyddi yn
y gwasanaeth sifil. ·
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol roi
gwybodaeth i'r Pwyllgor am gapasiti Llywodraeth Cymru yn ei Gwasanaethau
Cyfreithiol, mewn perthynas â rheoli'r nifer fawr o Femoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol a rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. |
|
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5, 7 a 9 y cyfarfod ar 7 Gorffennaf 2022. Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.30-10.45) |
Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
Egwyl dechnegol (10.45 - 11.00) |
||
(11.00-12.00) |
Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): Sesiwn dystiolaeth Hannah Blythyn
AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Jo Salway, Director
Cyfarwyddwr - Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg Neil Surman,
Dirprwy Gyfarwyddwr - Partneriaeth Gymdeithasol Sue Hurrell,
Pennaeth Caffael Gwaith Teg Dogfennau
ategol: Y Bil Partneriaeth
Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (PDF, 333KB) Memorandwm
Esboniadol (PDF, 1.8MB) Papur Briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Hannah Blythyn AS,
y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol; Jo Salway, Cyfarwyddwr,
Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg; Neil Surman, Dirprwy Gyfarwyddwr,
Partneriaeth Gymdeithasol; a Sue Hurrell, Pennaeth Caffael Gwaith Teg ar y Bil
Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). 6.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog ar y canlynol: ·
Rhoi rhagor o wybodaeth i’r
Pwyllgor am yr enghreifftiau y cyfeiriwyd atynt yn ystod y sesiwn, yn ymwneud
ag effaith dyletswydd caffael cyhoeddus ar fentrau caffael lleol Llywodraeth
Cymru. ·
Rhoi rhagor o wybodaeth i’r
Pwyllgor am yr amrywiaeth o ddeunyddiau i gefnogi a helpu awdurdodau
contractio, a dadansoddiad o’r hyn y byddai’r canllawiau a’r cymorth yn eu
cynnwys. ·
Hysbysu’r Pwyllgor pan fydd y
Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cyhoeddi’r ymgynghoriad ynghylch yr
adolygiad o Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a chyrff eraill. |
|
(12.00-12.10) |
Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
Egwyl (12.10-13.00) |
||
(13.00-14.00) |
Trefniadau ariannu ar ôl ymadael â’r UE: Sesiwn dystiolaeth 4 Y Gwir
Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Davies AS,
Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru Dogfennau
ategol: FIN(6)-15-22 P1 -
Llythyr oddi wrth Neil O’Brien AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros
Ffyniant Bro, yr Undeb a’r Cyfansoddiad - 6 Mai 2022 Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwir Anrhydeddus
Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru; a David Davies AS, Is-ysgrifennydd
Gwladol Seneddol Cymru ar yr ymchwiliad i drefniadau ariannu ar ôl ymadael â’r
UE. 8.2 Cytunodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac
Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru i ddarparu’r canlynol i’r Pwyllgor: ·
Y ddogfen y cyfeiriwyd ati yn ystod
y cyfarfod yn cynnwys gwybodaeth am lefel y cyllid a ddyrannwyd gan Lywodraeth
y DU. ·
Ffigurau’n ymwneud â chyllid
amaethyddol. ·
Y graff dosbarthiad fesul awdurdod
lleol. ·
Gwybodaeth mewn perthynas â chyllid
ar ôl y rhaglen Horizon yng Nghymru. ·
Eglurhad mewn perthynas â
thanwariant y Gronfa Ffyniant Gyffredin. |
|
(14.00-14.15) |
Trefniadau ariannu ar ôl ymadael â’r UE: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |