Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/06/2022 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (09.15-09.30)

(09.30-10.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

 

(09.30)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2022

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(09.30)

2.1

Papur i’w Nodi 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch yr amserlen ar gyfer Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 - 20 Mehefin 2022

Dogfennau ategol:

2.2

Papur i’w Nodi 2 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol - 27 Mehefin 2022

Dogfennau ategol:

(09.30-10.30)

3.

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaethau Ariannol

 

Dogfennau ategol:

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2022-23

Papur Briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaeth Ariannol; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllideb a Busnes y Llywodraeth ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y canlynol:

 

·         Gofyn i'r Gweinidog Addysg roi gwybodaeth i'r Pwyllgor am gost uned wirioneddol darparu prydau ysgol am ddim.

·         Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol roi gwybodaeth i’r Pwyllgor am y cyllid a ddyrannwyd i adferiad y GIG sy’n mynd i’r afael â phwysau ar y gweithlu, ac effaith y cyllid a ddyrannwyd ar leihau amseroedd aros y GIG.

·         Ysgrifennu at y Pwyllgor ar y cysyniad 'dim niwed' mewn perthynas ag adleoli swyddi'r gwasanaeth sifil i Gymru.

·         Gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol roi gwybodaeth i'r Pwyllgor am 'Llywodraeth Cymru 2025', mewn perthynas â swyddi yn y gwasanaeth sifil.

·         Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol roi gwybodaeth i'r Pwyllgor am gapasiti Llywodraeth Cymru yn ei Gwasanaethau Cyfreithiol, mewn perthynas â rheoli'r nifer fawr o Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5, 7 a 9 y cyfarfod ar 7 Gorffennaf 2022.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30-10.45)

5.

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

Egwyl dechnegol (10.45 - 11.00)

(11.00-12.00)

6.

Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Jo Salway, Director Cyfarwyddwr - Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg

Neil Surman, Dirprwy Gyfarwyddwr - Partneriaeth Gymdeithasol

Sue Hurrell, Pennaeth Caffael Gwaith Teg

 

Dogfennau ategol:

Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (PDF, 333KB)

Memorandwm Esboniadol (PDF, 1.8MB)

Papur Briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol; Jo Salway, Cyfarwyddwr, Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg; Neil Surman, Dirprwy Gyfarwyddwr, Partneriaeth Gymdeithasol; a Sue Hurrell, Pennaeth Caffael Gwaith Teg ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).

 

6.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog ar y canlynol:

 

·         Rhoi rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor am yr enghreifftiau y cyfeiriwyd atynt yn ystod y sesiwn, yn ymwneud ag effaith dyletswydd caffael cyhoeddus ar fentrau caffael lleol Llywodraeth Cymru.

·         Rhoi rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor am yr amrywiaeth o ddeunyddiau i gefnogi a helpu awdurdodau contractio, a dadansoddiad o’r hyn y byddai’r canllawiau a’r cymorth yn eu cynnwys.

·         Hysbysu’r Pwyllgor pan fydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cyhoeddi’r ymgynghoriad ynghylch yr adolygiad o Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a chyrff eraill.

 

(12.00-12.10)

7.

Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

Egwyl (12.10-13.00)

(13.00-14.00)

8.

Trefniadau ariannu ar ôl ymadael â’r UE: Sesiwn dystiolaeth 4

Y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

David Davies AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru

 

Dogfennau ategol:

FIN(6)-15-22 P1 - Llythyr oddi wrth Neil O’Brien AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Ffyniant Bro, yr Undeb a’r Cyfansoddiad - 6 Mai 2022

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru; a David Davies AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru ar yr ymchwiliad i drefniadau ariannu ar ôl ymadael â’r UE.

 

8.2 Cytunodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru i ddarparu’r canlynol i’r Pwyllgor:

 

·         Y ddogfen y cyfeiriwyd ati yn ystod y cyfarfod yn cynnwys gwybodaeth am lefel y cyllid a ddyrannwyd gan Lywodraeth y DU.

·         Ffigurau’n ymwneud â chyllid amaethyddol.

·         Y graff dosbarthiad fesul awdurdod lleol.

·         Gwybodaeth mewn perthynas â chyllid ar ôl y rhaglen Horizon yng Nghymru.

·         Eglurhad mewn perthynas â thanwariant y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

 

(14.00-14.15)

9.

Trefniadau ariannu ar ôl ymadael â’r UE: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.