Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/12/2024 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00-09.15)

Cofrestru

(09.15-09.30)

Rhag-gyfarfod preifat

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiant

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

 

1.2 Datganodd Aelodau y buddiannau perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

·         Datganodd Peter Fox MS ei fod yn berchen ar garafán.

(09.30)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 23 Hydref a 7 Tachwedd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

2.1

PTN 1 - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2025-26: Ymateb Comisiwn y Senedd i argymhellion adroddiad y Pwyllgor - 5 Tachwedd 2024

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 - Llythyr gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Adran 150 gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 - 6 Tachwedd 2024

Dogfennau ategol:

2.3

PTN 3 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Gwybodaeth bellach am Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) - 12 Tachwedd 2024

Dogfennau ategol:

2.4

PTN 4 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Ail Gyllideb Atodol 2024-25 - 15 Tachwedd 2024

Dogfennau ategol:

2.5

PTN 5 - Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol - 25 Tachwedd 2024

Dogfennau ategol:

2.6

PTN 6 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Fformwla Ariannu Llywodraeth Leol

Dogfennau ategol:

(09.30-11.30)

3.

Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru

Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-adran Strategaeth Trethi a Chysylltiadau Rhynglywodraethol, Llywodraeth Cymru

Nicholas Lambert, Tîm y Trysorlys a Chaffael Yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru

Emma Anderson, Tîm Addysg (Ysgolion), Diwylliant, Cyfryngau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc, fel y’i cyflwynwyd (PDF, 643, KB)

Memorandwm Esboniadol (PDF, 4.7MB)

Datganiad o Fwriad y Polisi (PDF , 320KB)

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Gwelliannau Cyfnod 2 dangosol – 26 Tachwedd 2024

Briff Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) gan Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg (yr Ysgrifennydd Cabinet), Llywodraeth Cymru; Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth Dreth a Chysylltiadau Rhynglywodraethol, Llywodraeth Cymru; Nicholas Lambert, Uwch Gyfreithiwr, y Tîm Trysorlys a Chaffael, Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru; ac Emma Anderson, Cyfreithiwr, Addysg (Ysgolion), Diwylliant, y Cyfryngau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Llywodraeth Cymru.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet gyda chwestiynau ychwanegol nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

 

(11.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.30-11.45)

5.

Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.

 

(11.45-12.15)

6.

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

FIN(6)-26-24 P1 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar oblygiadau ariannol Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), a chytunodd arno.