Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 1(v1) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/05/2021 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Llywydd o dan Reol Sefydlog 6

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.05

Gwahoddodd Clerc y Senedd enwebiadau yn unol â Rheol Sefydlog 6.6.

Cafodd Elin Jones ei henwebu gan Lynne Neagle. Eiliodd Siân Gwenllian yr enwebiad.

Cafodd Russell George ei enwebu gan Laura Anne Jones. Eiliodd Alun Davies yr enwebiad.

Gwahoddodd y Clerc yr ymgeiswyr i annerch y Senedd.

Gan fod dau enwebiad, cynhaliwyd pleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 6.8.

Canlyniad y bleidlais gyfrinachol oedd:

Elin Jones

Russell George

Ymatal

Cyfanswm

35

25

0

60

Cyhoeddodd y Clerc fod Elin Jones wedi’i hethol yn Llywydd.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.50 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro cyn i’r Llywydd ddod i’r Gadair.

2.

Ethol Dirprwy Lywydd o dan Reol Sefydlog 6

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.54

Gwahoddodd y Llywydd (Elin Jones) enwebiadau yn unol â Rheol Sefydlog 6.6.

Cafodd David Rees ei enwebu gan Joyce Watson. Eiliodd Llyr Gruffydd yr enwebiad.

Cafodd Hefin David ei enwebu gan Dawn Bowden. Eiliodd Laura Anne Jones yr enwebiad.

Gwahoddodd y Llywydd yr ymgeiswyr i annerch y Senedd.

Gan fod dau enwebiad, cynhaliwyd pleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 6.8.

Canlyniad y bleidlais gyfrinachol oedd:

David Rees

Hefin David

Ymatal

Cyfanswm

35

24

0

59

Cyhoeddodd y Llywydd fod David Rees wedi’i ethol yn Ddirprwy Lywydd.

3.

Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.47.

Penderfynodd y Senedd gymryd enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog, yn unol â Rheol Sefydlog 12.11.

Gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog yn unol â Rheol Sefydlog 8.2.

Cafodd Mark Drakeford ei enwebu gan Rebecca Evans.

Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill. Felly, yn unol ag adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru, datganodd y Llywydd ei bwriad i argymell i'w Mawrhydi y dylid penodi Mark Drakeford yn Brif Weinidog Cymru.

Gwahoddodd y Llywydd Mark Drakeford i annerch y Senedd, a dilynwyd ef gan arweinwyr y gwrthbleidiau.