Enwebu'r Prif Weinidog
Enwebu'r Prif Weinidog
Gellir enwebu
Aelod i’w benodi’n Brif Weinidog
yn y Cyfarfod Llawn cyntaf ar ôl etholiad neu yn ystod unrhyw Gyfarfod Llawn
wedi hynny, yn amodol ar benderfyniad y Senedd i wneud hynny. Bydd y Llywydd yn
gwahodd y Senedd i gytuno y caiff enwebiadau eu gwneud. Os bydd Aelod yn
gwrthwynebu, cynhelir pleidlais electronig. Bydd trafodion enwebu’n digwydd dim
ond os bydd mwyafrif yr Aelodau sy’n pleidleisio yn cytuno a hynny.
Bydd y Llywydd yn
cyhoeddi canlyniad y broses i'r Senedd. Bydd y Llywydd yn argymell i'w Mawrhydi
y dylai'r Aelod a enwebir gan y Senedd gael ei benodi'n Brif Weinidog.
Esbonnir y
weithdrefn lawn ar gyfer enwebu'r Prif Weinidog yn fanwl yn Adran o'r Canllaw
i fusnes cynnar y Cyfarfod Llawn ar ôl etholiad Mai 2021 (PDF, 175KB).
Math o fusnes: Busnes Cynnar
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021