Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 1(v1)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 12/05/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol Llywydd o dan Reol Sefydlog 6 Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.05 Gwahoddodd Clerc y Senedd
enwebiadau yn unol â Rheol Sefydlog 6.6. Cafodd Elin Jones ei henwebu
gan Lynne Neagle. Eiliodd Siân Gwenllian yr enwebiad. Cafodd Russell George ei enwebu
gan Laura Anne Jones. Eiliodd Alun Davies yr enwebiad. Gwahoddodd y Clerc yr
ymgeiswyr i annerch y Senedd. Gan fod dau enwebiad,
cynhaliwyd pleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 6.8. Canlyniad y bleidlais
gyfrinachol oedd:
Cyhoeddodd y Clerc fod
Elin Jones wedi’i hethol yn Llywydd. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.50 cafodd y
cyfarfod ei atal dros dro cyn i’r Llywydd ddod i’r Gadair. |
|||||||||
Ethol Dirprwy Lywydd o dan Reol Sefydlog 6 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.54 Gwahoddodd y
Llywydd (Elin Jones) enwebiadau yn unol â Rheol Sefydlog 6.6. Cafodd David Rees
ei enwebu gan Joyce Watson. Eiliodd Llyr Gruffydd yr enwebiad. Cafodd Hefin David
ei enwebu gan Dawn Bowden. Eiliodd Laura Anne Jones yr enwebiad. Gwahoddodd y
Llywydd yr ymgeiswyr i annerch y Senedd. Gan fod dau
enwebiad, cynhaliwyd pleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 6.8. Canlyniad y
bleidlais gyfrinachol oedd:
Cyhoeddodd y Llywydd fod David Rees wedi’i
ethol yn Ddirprwy Lywydd. |
|||||||||
Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8 Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.47. Penderfynodd y Senedd
gymryd enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog, yn unol â Rheol Sefydlog
12.11. Gwahoddodd y Llywydd
enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog yn unol â Rheol Sefydlog 8.2. Cafodd Mark Drakeford
ei enwebu gan Rebecca Evans. Ni chafwyd unrhyw
enwebiadau eraill. Felly, yn unol ag adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru,
datganodd y Llywydd ei bwriad i argymell i'w Mawrhydi y dylid penodi Mark
Drakeford yn Brif Weinidog Cymru. Gwahoddodd y Llywydd
Mark Drakeford i annerch y Senedd, a dilynwyd ef gan arweinwyr y gwrthbleidiau. |