Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 15/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Nid oes dim
newidiadau i fusnes y llywodraeth yr wythnos hon.
Dydd
Mercher Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr
Busnes at y newidiadau a ganlyn:
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau
a ganlyn: Dydd Mawrth
22 Tachwedd 2022 · Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder
Cymdeithasol: Glasbrintiau Cyfiawnder Menywod a Chyfiawnder Ieuenctid:
Adroddiad cynnydd a'r camau nesaf (30 munud) Dydd Mawrth
29 Tachwedd 2022 · Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi
(Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygio Canlyniadol) 2022 (15 munud) · Rheoliadau’r Cynllun Morol,
Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 (15 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i'r ychwanegiadau canlynol i'r amserlen: Dydd Mercher 23 Tachwedd 2022
Ac i
drefnu'r eitemau canlynol o fusnes: Dydd Mercher 7 Rhagfyr 2022
|
|
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig
canlynol i’w drafod ar 23 Tachwedd: Jenny
Rathbone NNDM8130 Cynnig bod
y Senedd: 1. Yn nodi: a) cyhoeddi
adroddiad Gyda'n Gilydd drwy Adegau Anodd gan MIND Cymru; b) bod
gwytnwch cymunedol yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl da. 2. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i: a) gweithio
gyda'r sector gwirfoddol a chymunedol i adeiladu cymunedau gwydn drwy: (i)
hyrwyddo cyfalaf cymdeithasol; (ii)
buddsoddi mewn asedau cymunedol; (iii) mynd
i'r afael â rhwystrau sy'n wynebu rhai grwpiau; b) cynnwys
y rôl a chwaraeir gan asedau a rhwydweithiau cymunedol mewn unrhyw strategaeth
iechyd meddwl yn y dyfodol. Gyda'n gilydd drwy Adegau Anodd |
|
Deddfwriaeth |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: |
|
Busnes y Senedd |
|
Effaith Aelod yn gadael grŵp gwleidyddol ar gynrychiolaeth mewn Pwyllgorau a’r amser a neilltuir i wrthbleidiau yn y Cyfarfod Llawn Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor Busnes effaith y ffaith nad yw Rhys ab Owen bellach yn aelod o
grŵp Plaid Cymru yn y Senedd ar bwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid gwahodd grŵp Plaid Cymru i lenwi'r swyddi gwag
sydd wedi codi ar bwyllgorau, ac i gynnig bod y Senedd yn cytuno ar yr
enwebiadau canlynol:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i
gynnig lle i Rhys ab Owen ar y Pwyllgor Deisebau, yn amodol ar gytundeb y
Senedd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio
â gwneud unrhyw newidiadau pellach i aelodaeth a chadeiryddiaeth pwyllgorau,
na’r dyraniad amser yn y Cyfarfod Llawn ar hyn o bryd. |
|
Diwygio'r Senedd |
|
Argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd: Cymorth ar gyfer penderfyniad y Pwyllgor Busnes Cofnodion: 1. Maint Llywodraeth Cymru mewn Senedd
fwy (argymhelliad 4) Trafododd y Pwyllgor Busnes y
dystiolaeth a gafwyd a chytunodd, mewn egwyddor, i ddod i’r casgliad y dylai deddfwriaeth
Ddiwygio'r Senedd ddiwygio'r darpariaethau statudol presennol yn Neddf
Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu ar gyfer terfyn gwahanol ar y nifer o
Weinidogion Cymru. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
ddychwelyd mewn cyfarfod dilynol at drafodaeth bellach am lefel y trothwy o ran
isafswm a/neu uchafswm, ac a ddylai'r ddeddfwriaeth gynnwys ystod ar gyfer y
nifer o Weinidogion Cymru. 2. Nifer y Dirprwy Lywyddion mewn
Senedd fwy Daeth Pwyllgor Busnes i'r casgliad
y dylai deddfwriaeth Ddiwygio'r Senedd ddiwygio'r darpariaethau statudol
presennol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu ar gyfer terfyn o ddau
Ddirprwy Lywydd, yn hytrach nag un, fel sydd ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
ddychwelyd at drafodaeth bellach am sut y dylai'r ddeddfwriaeth ei gwneud yn
ofynnol bod cydbwysedd gwleidyddol rhwng y Llywydd a’r dirprwyon, a pha deitlau
a ddefnyddir ar gyfer y swyddi hynny yn y ddeddfwriaeth. 3.
Y nifer o Gomisiynwyr y Senedd
mewn Senedd fwy Daeth y Pwyllgor Busnes i’r
casgliad na ddylai fod unrhyw newid i'r darpariaethau statudol presennol o ran
y nifer o Gomisiynwyr y Senedd. 4.
Y canlyniadau pe bai Aelod yn
newid eu plaid wleidyddol pe bai wedi eu hethol drwy system rhestr gyfrannol
gaeedig Daeth y Pwyllgor Busnes i'r
casgliad na fyddai'n argymell y dylai deddfwriaeth Ddiwygio'r Senedd gyflwyno
canlyniadau deddfwriaethol sy'n deillio o fod Aelod o'r Senedd yn newid eu
plaid wleidyddol rhwng etholiadau. Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai'n rhoi
ystyriaeth bellach i fecanweithiau mewnol y Senedd sy'n ymwneud ag aelodaeth grŵp
wrth adolygu Rheolau Sefydlog cyn tymor y Senedd nesaf. |
|
Papur cefndir: nifer y deiliaid swyddi Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papur. |
|
Papur cefndir: canlyniadau pe bai Aelod yn newid plaid wleidyddol. Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y papur. |