Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Huw Gapper
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/11/2020 - Pwyllgor y Llywydd - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf Pwyllgor y Llywydd. 1.2 Ni chafwyd
ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant. 1.3 Nid yw’r
Rheolau Sefydlog yn galluogi Pwyllgor y Llywydd i ethol Cadeirydd dros dro,
felly cytunodd y Pwyllgor, pe bai'r Cadeirydd yn profi anawsterau technegol yn
ystod y cyfarfod, y byddai Llyr Gruffydd yn arwain y trafodaethau yn ei
habsenoldeb. |
|
(9.35 - 10.30) |
Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2021/22 a’i gynllun pum mlynedd Papur
1 - Amcangyfrifon ariannol a chynllun pum mlynedd y Comisiwn Etholiadol Papur
1, Atodiad A - Amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol Papur
2 - Chynllun pum mlynedd y Comisiwn Etholiadol Papur
3 - Cyngor Gweinidogion Cymru ar amcangyfrif ariannol a chynllun pum mlynedd y
Comisiwn Etholiadol Papur
4 - Adroddiad gan y Rheolwr a’r Archwilydd Cyffredinol ar amcangyfrifon y
Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2021/22 Papur
5 – Gwybodaeth ychwanegol o’r Comisiwn Etholiadol Y Fonesig Elan
Closs Stephens CBE - Comisiynydd Etholiadol – Cymru Bob Posner - Prif
Weithredwr, Comisiwn Etholiadol Swyddog Cyfrifyddu Kieran Rix –
Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Rhydian Thomas –
Pennaeth Comisiwn Etholiadol, Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y
Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol i'r cyfarfod a diolchodd iddo am gyflwyno ei
amcangyfrif ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22 a'i gynllun pum
mlynedd, ar 1 Hydref. 2.2 Bu’r
Pwyllgor yn holi’r Comisiwn Etholiadol yn fanwl ar ei amcangyfrif ariannol ar
gyfer 2021-22 a'i gynllun Corfforaethol pum mlynedd. 2.3 Nododd y
Pwyllgor yr adroddiad gan y Rheolwr a’r Archwilydd Cyffredinol yn unol â
pharagraff 16C(2)(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a
Refferenda 2000. 2.4 Nododd y
Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog ar yr amcangyfrif a'r cynllun fel rhan
o'r ymgynghoriad sy'n ofynnol o dan baragraff 16A(8) (b) o Atodlen 1 i Ddeddf
Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Camau i’w cymryd: - Cytunodd y Comisiwn Etholiadol i ddarparu
rhagor o dystiolaeth ar eu rhesymeg dros gynnwys dibrisiant yn yr amcangyfrif. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 3.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y
cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
||
(10.30 - 11.00) |
Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2021/22 a’r cynllun pum mlynedd: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
Papur i’w nodi Papur 5 - Llythyr
gan Gadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Nododd y
Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad. |