Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Huw Gapper 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/11/2020 - Pwyllgor y Llywydd - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf Pwyllgor y Llywydd.

1.2     Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.

1.3     Nid yw’r Rheolau Sefydlog yn galluogi Pwyllgor y Llywydd i ethol Cadeirydd dros dro, felly cytunodd y Pwyllgor, pe bai'r Cadeirydd yn profi anawsterau technegol yn ystod y cyfarfod, y byddai Llyr Gruffydd yn arwain y trafodaethau yn ei habsenoldeb.

 

(9.35 - 10.30)

2.

Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2021/22 a’i gynllun pum mlynedd

Papur 1 - Amcangyfrifon ariannol a chynllun pum mlynedd y Comisiwn Etholiadol

Papur 1, Atodiad A - Amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol

Papur 2 - Chynllun pum mlynedd y Comisiwn Etholiadol

Papur 3 - Cyngor Gweinidogion Cymru ar amcangyfrif ariannol a chynllun pum mlynedd y Comisiwn Etholiadol

Papur 4 - Adroddiad gan y Rheolwr a’r Archwilydd Cyffredinol ar amcangyfrifon y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2021/22

Papur 5 – Gwybodaeth ychwanegol o’r Comisiwn Etholiadol

 

Y Fonesig Elan Closs Stephens CBE - Comisiynydd Etholiadol – Cymru

Bob Posner - Prif Weithredwr, Comisiwn Etholiadol Swyddog Cyfrifyddu

Kieran Rix – Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Rhydian Thomas – Pennaeth Comisiwn Etholiadol, Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Croesawodd y Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol i'r cyfarfod a diolchodd iddo am gyflwyno ei amcangyfrif ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22 a'i gynllun pum mlynedd, ar 1 Hydref.

 

2.2     Bu’r Pwyllgor yn holi’r Comisiwn Etholiadol yn fanwl ar ei amcangyfrif ariannol ar gyfer 2021-22 a'i gynllun Corfforaethol pum mlynedd.

 

2.3     Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan y Rheolwr a’r Archwilydd Cyffredinol yn unol â pharagraff 16C(2)(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

 

2.4     Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog ar yr amcangyfrif a'r cynllun fel rhan o'r ymgynghoriad sy'n ofynnol o dan baragraff 16A(8) (b) o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

 

Camau i’w cymryd:

-     Cytunodd y Comisiwn Etholiadol i ddarparu rhagor o dystiolaeth ar eu rhesymeg dros gynnwys dibrisiant yn yr amcangyfrif.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(10.30 - 11.00)

4.

Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2021/22 a’r cynllun pum mlynedd: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

5.

Papur i’w nodi

Papur 5 - Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.