Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 27/01/2020 - Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd - Y Pumed Cynulliad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r
cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Delyth Jewell AC;
dirprwyodd Dai Lloyd AC ar ei rhan. |
|
(09.15–10.30) |
Ethol Cynulliad mwy amrywiol – sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr, Democratiaeth
Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru Elaina Chamberlain, Pennaeth Democratiaeth, Amrywiaeth a Chydnabyddiaeth
Ariannol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y
Gweinidog. 2.2 Cytunodd y Gweinidog i: i. ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu unrhyw
wybodaeth bellach yn dilyn ystyriaeth y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol o’r
trawsgrifiad; a ii. darparu crynodeb o faterion a godwyd yn
ystod trafodaethau â llywodraeth leol ynghylch galluogi cynghorwyr i gymryd ym musnes
cynghorau o bell. |
|
(10.30) |
Papurau i'w nodi |
|
Llythyr gan y Llywydd – gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 2 Rhagfyr 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nodwyd y papur. |
||
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.30–10.45) |
Ethol Cynulliad mwy amrywiol – ystyried y dystiolaeth lafar gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Cofnodion: 5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i
law. |
|
(10.45–11.00) |
Capasiti’r Cynulliad – ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law yn y digwyddiad trafod gyda rhanddeiliaid ar 6 Ionawr 2020 Cofnodion: 6.1 Ystyriodd y Pwyllgor nodyn ysgrifenedig ar y materion
a godwyd yn ystod ei ddigwyddiad trafod â rhanddeiliaid ar gapasti’r Cynulliad,
a chytunwyd i’w gyhoeddi. |