Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 02/12/2019 - Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd - Y Pumed Cynulliad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.15-10.20) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Delyth Jewell AC; dirprwyodd Dai Lloyd AC ar ei rhan. |
|
(10.20-11.50) |
Sesiwn tystiolaeth lafar gyda'r Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad Elin Jones AC, y
Llywydd Manon Antoniazzi,
Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Anna Daniel, Pennaeth
Trawsnewid Strategol, Comisiwn y Cynulliad Matthew Richards,
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Comisiwn y Cynulliad Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
aelodau’r panel. 2.2 Cytunodd
y Llywydd i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor. |
|
Sesiwn tystiolaeth lafar am amrywiaeth y Cynulliad - sesiwn dystiolaeth gyda'r Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad |
||
Sesiwn tystiolaeth lafar am chapasiti'r Cynulliad - sesiwn dystiolaeth gyda'r Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad |
||
(11.50-11.55) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn. Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.55-12.10) |
Sesiwn tystiolaeth lafar am amrywiaeth a chapasiti'r Cynulliad - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth
i law. 4.2 Cytunodd
yr Aelodau i ofyn i’r Llywydd roi’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn i'r Pwyllgor: ·
Mesurau i gynyddu
capasiti'r Cynulliad heb gynyddu maint y Cynulliad. ·
Enghreifftiau
o ddeddfwrfeydd datganoledig sydd â threfniadau ar waith i weithio ar y cyd â
haenau llywodraethu eraill fel rhan o'u busnes seneddol ffurfiol. ·
Dadansoddiad
o amseroedd eistedd y Cynulliad a nifer yr wythnosau y mae’r sefydliad yn
eistedd, ac unrhyw oblygiadau o ran capasiti'r Cynulliad a gallu’r Aelodau i
gyflawni eu rolau a’u cyfrifoldebau eraill. ·
Amcangyfrif
o gostau unrhyw gynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad. ·
Gwybodaeth
am sut y gallai mesurau i annog amrywiaeth gael eu cyflwyno er mwyn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. ·
Barn ar i
ba raddau y mae'r fframwaith datganoli presennol yn galluogi casglu data am
ymgeiswyr yn etholiadau’r Cynulliad, ac unrhyw gamau y gallai Comisiwn y
Cynulliad neu eraill eu cymryd heb yr angen am ddeddfwriaeth bellach. |
|
Sesiwn tystiolaeth lafar am amrywiaeth y Cynulliad - trafod y dystiolaeth |
||
Sesiwn tystiolaeth lafar am chapasiti'r Cynulliad - trafod y dystiolaeth |
||
(12.10-12.30) |
Blaenraglen waith Cofnodion: 5.1 Trafododd
y Pwyllgor ei flaenraglen waith cyn cytuno arni. |
|
(12.30-12.40) |
Y strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd Cofnodion: 6.1 Cytunodd
y Pwyllgor ar ei strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd. |