Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiant Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
(09.30) |
Cod Ymddygiad - Adolygiad: Adroddiad Comisiwn y Cynulliad ar Ganlyniadau’r Holiadur Urddas a Pharch (Mehefin 2019) SoC(5)-11-19 Papur 1 - Adroddiad Comisiwn y Cynulliad ar
Ganlyniadau’r Holiadur Urddas a Pharch (Mehefin 2019) SoC(5)-11-19 Papur 2 - Datganiad ar Ganlyniadau’r
Holiadur Urddas a Pharch (3 Gorffennaf 2019) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Roedd
yr Aelodau wedi trafod canlyniadau’r arolwg drafft yn y cyfarfod ar 2 Gorffennaf
ond nodwyd bod yr adroddiad wedi’i gyhoeddi ar 3 Gorffennaf 2019. |
|
(09.35 - 10.15) |
Ystyried adroddiadau gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) Cofnodion: 3.1
Trafododd y Comisiynydd Safonau ei ail Adroddiad Blynyddol, cyn iddo gael ei
gyhoeddi, gyda’r Pwyllgor. 3.2 Nododd
yr Aelodau yr adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd tymor yr haf. 3.3
Trafododd yr Aelodau’r adroddiad drafft a chytuno arno (03-19). |
|
(10.15 - 10.45) |
Adrodd Deuol SoC(5)-11-19 Papur 3 – Y Comisiwn Etholiadol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Mae'r
Comisiwn Etholiadol wedi paratoi papur i’w ystyried yng nghyfarfod y Bwrdd
Cynghori Etholiadol yn ddiweddarach y mis hwn. Nododd yr Aelodau y papur a bod
gwaith wedi dechrau gyda dileu gofynion adrodd deuol. |