Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/04/2019 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.   Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.   Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant, Janet Finch-Saunders, Russell George, John Griffiths, Mike Hedges, Nick Ramsay a Bethan Sayed.

 

 

 

 

 

2.1

Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru - Ymateb i Ddyfarniad yr Uchel Lys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.   Er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau posibl, gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer eitem 2.1.

 

2.   Enwebwyd David Rees gan Mick Antoniw a chafodd ei ethol yn Gadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

3.   Esgusododd Ann Jones, AC, ei hun o'r cyfarfod ar gyfer eitem 2.1.

 

4.   Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r Prif Weinidog am ei Ddatganiad Ysgrifenedig.

 

 

 

2.2

Blaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer gweddill y Pumed Cynulliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn craffu ar flaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer gweddill y Pumed Cynulliad.

 

2.3

Materion yn ymwneud ag ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.   Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog ar y datblygiadau diweddaraf mewn perthynas ag ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd.

 

2.   Datganodd Lynne Neagle y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Efallai y byddai aelod o staff dros dro yn ei swyddfa wedi bod yn rhan o'r trafodaethau mewn perthynas ag eitem 2.1.

 

 

2.4

Materion Amserol

Cofnodion:

Gan fod nifer o faterion amserol wedi codi mewn busnes cynharach, ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau o dan yr eitem hon.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitem 4

Cofnodion:

Ni chynigiwyd y cynnig.

 

4.

Trafod y dystiolaeth o sesiynau blaenorol

Cofnodion:

Ni wnaeth y Pwyllgor gynnig y cynnig i gyfarfod yn breifat i drafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol.