Agenda a Chofnodion
Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd - Dydd Iau, 8 Chwefror 2018 10.30
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Morris
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/02/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
||
(10.30 - 11.15) |
Ymchwiliad i weithgaredd corfforol ymhlith plant a phobl ifanc - sesiwn dystiolaeth 1 - Ray Williams Ray Williams, Canolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ray Williams. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 – llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch rhoi Rhan 5 y Ddeddf ar waith Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â chychwyn Rhan 5 o'r Ddeddf. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a'r
cyfarfod ar 14 Chwefror (er mwyn ystyried yr adroddiad drafft ar Fil Iechyd y
Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a thrafod y flaenraglen waith). |
||
(11.15 - 11.25) |
Ymchwiliad i weithgaredd corfforol ymhlith plant a phobl ifanc - trafod y dystiolaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitem 2 y
cyfarfod. |
|
(11.30 - 12.15) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) – briff technegol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ynghylch Bil Iechyd y Cyhoedd
(Isafbris am Alcohol) (Cymru) gan Chris Gittins, Pennaeth Datblygu
Camddefnyddio Sylweddau, Beverley Morgan, Rheolwr y Bil, Bethan Roberts, Adran
y Gwasanaethau Cyfreithiol, a Janine Hale, Prif Swyddog Ymchwil. |
|
(12.30 - 13.15) |
Ymchwiliad i weithgaredd corfforol ymhlith plant a phobl ifanc - gweithgarwch ymgysylltu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cafodd y Pwyllgor sgwrs ar y we gyda phlant a phobl ifanc i siarad am
eu lefelau gweithgarwch ac unrhyw rwystrau y maent yn eu hwynebu rhag cymryd
rhan mewn gweithgarwch. 7.2 Cymerodd cynrychiolwyr o Ysgol Uwchradd Ebbw Fawr, Ysgol Gyfun
Llangefni, Ysgol Uwchradd y Drenewydd, Prosiect Delwedd Iach, Ysgol Uwchradd y
Frenhines Elisabeth, Coleg Caerdydd a'r Fro, a Fforwm Ieuenctid y Fro ran yn y
sgwrs ar y we. |