Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/05/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.30-10.30)

2.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr – Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Quentin Sandifer, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus a Chyfarwyddwr Meddygol – Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Giri Shankar, Arweinydd Proffesiynol ar Ddiogelu Iechyd a Chyfarwyddwr Digwyddiadau o ran yr ymateb i COVID -19 – Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Briff ymchwil

Papur 1: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru.

2.2 Cytunodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu gwybodaeth bellach ynghylch ei ragamcanion ar gyfer cyflenwi profion Covid-19.

 

(10.30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig o dan reol sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o eitem 4 y cyfarfod heddiw.

 

 

(10.40-11.00)

4.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.00-12.00)

5.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Fforwm Gofal Cymru

Mary Wimbury, Prif Weithredwr – Fforwm Gofal Cymru

Mario Kreft, Cadeirydd – Fforwm Gofal Cymru

 

Papur 2: Fforwm Gofal Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fforwm Gofal Cymru.

 

(12.00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig o dan reol sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(12.00-12.20)

7.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.20-12.30)

8.

Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ynghylch effaith COVID-19 ar faterion chwaraeon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor i gais Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i gynnwys materion chwaraeon fel rhan o'r gwaith y mae'r Pwyllgor yn ei wneud ar Covid-19.