Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 27/01/2021 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Diolchodd y
Cadeirydd i Andrew RT Davies AS am ei gyfraniad i waith y Pwyllgor a
chroesawodd Angela Burns AS i'r Pwyllgor. |
|
(09.30-10.30) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething
AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS,
y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Andrew Goodall,
Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr
GIG Cymru – Llywodraeth Cymru Albert Heaney,
Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Llywodraeth Cymru Jean White, Prif
Swyddog Nyrsio – Llywodraeth Cymru Briff ymchwil Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol. 2.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol gyda chwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn
dystiolaeth. |
|
(10.45-11.45) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Tracey
Cooper, Prif Weithredwr – Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Giri
Shankar, Arweinydd Proffesiynol Diogelu Iechyd a Chyfarwyddwr Digwyddiad ar
gyfer yr ymateb i COVID-19 – Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Robin
Howe, Prif Arweinydd Proffesiynol ym maes Microbioleg – Iechyd Cyhoeddus Cymru Papur 1:
Iechyd Cyhoeddus Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cafodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru. 3.2 Cytunodd Dr
Tracey Cooper i rannu â’r Pwyllgor gopi o adroddiad tueddiadau Iechyd Cyhoeddus
Cymru o’i arolwg ymgysylltiad cyhoeddus pan fydd ar gael. 3.3 Cytunodd Dr
Giri Shankar i ddarparu manylion yr amserlen fonitro ar gyfer effeithiolrwydd
brechlynnau COVID-19 (gan gynnwys yr amser rhwng y dos cyntaf a'r ail ddos y
mae unigolyn yn ei gael), ac i amlinellu rôl Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y broses
fonitro. 3.4 Cytunodd Dr
Tracey Cooper i rannu â’r Pwyllgor Arolygon Neges Destun ynghylch Hyder mewn
Ymlyniad Cysylltiadau (ACTS) diweddar i ddangos sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru
yn cefnogi awdurdodau lleol a byrddau iechyd sy'n rheoli ac yn cydlynu Profi,
Olrhain, Diogleu a'r system olrhain cysylltiadau. |
|
(11.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y
Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
|
(11:45 – 12:05) |
COVID-19: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12:05-12.20) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau a gytunir drwy’r
e-bost. |