Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Amseriad disgwyliedig: Preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol - sesiwn dystiolaeth gyda Wyn Jones

Wyn Jones, Pennaeth Adnoddau, Ysbytai Addysgu Leeds

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Wyn Jones:

 

(10.35 - 11.35)

3.

Ymchwiliad i gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol - sesiwn dystiolaeth: GIG Cymru

Jayne Dando, Pennaeth Strategaeth a Chynllunio’r Gweithlu, Gwasanaethau Addysg a Datblygu’r Gweithlu, Partneriaeth Cydwasanaethau’r GIG

Richard Tompkins, Cyfarwyddwr, Cyflogwyr GIG Cymru

Helen Watkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jayne Dando, Richard Tompkins a Helen Watkins.

 

(11.35 - 11.50)

4.

Ymchwiliad i gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol - trafod y dystiolaeth a gafwyd yn eitemau 2 a 3

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Wyn Jones, Pennaeth Adnoddau yn Ysbytai Addysgu Leeds a Jayne Dando, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG, Richard Tompkins, Cyflogwyr GIG Cymru a Helen Watkins, Ymddiriedolaeth GIG Felindre.

 

(11.50 - 12.05)

5.

Ymchwiliad i ofal sylfaenol - trafod y cwmpas a'r dull gweithredu ar gyfer yr ymchwiliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y cwmpas a'r dull gweithredu ar gyfer yr ymchwiliad, a chytunodd arnynt.

 

(12.05 - 12.15)

6.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) - y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i ysgrifennu adroddiad.

 

(12.15 - 12.25)

7.

Trafod gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch y cynnydd yn nifer y cwynion iechyd a dderbyniwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ofyn i'r clerc gysylltu â chlerc y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ôl cynnal ei sesiwn graffu a fydd yn digwydd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gasgliadau'r pwyllgor hwnnw.