Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/11/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth
Leol a Chymunedau. 1.2. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu
gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. 1.3. Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Dawn Bowden AS. Dirprwyodd Jenny
Rathbone AS ar ei rhan yn unol â Rheol Sefydlog 17.48. 1.4. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai e'n gadael y
cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Huw Irranca-Davies AS yn Gadeirydd Dros Dro
yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. |
||
(15.00 - 16.15) |
Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol - sesiwn dystiolaeth 7 Jane Hutt AS, y
Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Chris Buchan, Pennaeth
Polisïau’r Trydydd Sector a Chymunedau, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Jane Hutt AS, y
Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ·
Chris Buchan,
Pennaeth Polisïau’r Trydydd Sector a Chymunedau, Llywodraeth Cymru 2.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Dirprwy
Weinidog a’r Prif Chwip i ddarparu: ·
Gwybodaeth bellach
gan Rwydwaith Amgylcheddol Sefydliadau'r Trydydd Sector ynghylch annog
cymunedau i ddefnyddio gwasanaethau awyr agored; ·
Gwybodaeth bellach
am y fenter Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch trin gweithwyr o leiafrifoedd ethnig yn ystod pandemig y coronafeirws. Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch trin
gweithwyr o leiafrifoedd ethnig yn ystod pandemig y coronafeirws. |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan y Groes Goch Brydeinig ynglŷn ag effaith COVID-19 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2.a. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan y
Groes Goch Brydeinig ynglŷn ag effaith
COVID-19 |
||
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip mewn perthynas ag effaith COVID-19 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.3.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Dirprwy
Weinidog a’r Prif Chwip mewn perthynas ag effaith COVID-19. |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Helpforce Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru mewn perthynas ag effaith COVID-19 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.4.a. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan
Helpforce Cymru a CGGC mewn perthynas ag effaith COVID-19 |
||
Ymateb i'r ymgynghoriad gan Sefydliad Prydeinig y Galon yng Nghymru mewn perthynas ag effaith COVID-19 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.5.a. Nododd y Pwyllgor ymateb i’r ymgynghoriad gan
Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru mewn perthynas ag effaith COVID-19. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Cofnodion: 4.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(16.15 - 16.30) |
Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol – trafod y dystiolaeth a gafwyd. Cofnodion: 5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |