Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/07/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. 1.2. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
iddo bennu na allai’r cyhoedd fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor, er
mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd. 1.3. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe
bai'n gadael y cyfarfod am ryw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros
Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4. Dirprwyodd David Melding AS ar ran Mark Isherwood AS
yn unol â Rheol Sefydlog 17.48. |
||
(14.00 - 15.00) |
Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): sesiwn dystiolaeth 6 Julie James AS, y
Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Emma Williams,
Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru Simon White,
Pennaeth Strategaeth Tai a Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru Bil
Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Julie James AS, Y
Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ·
Emma Williams,
Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru ·
Simon White,
Pennaeth Strategaeth Tai a Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 14 Medi 2020 Cofnodion: 3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(15.00 - 16.00) |
Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a thrafod y materion allweddol Cofnodion: 4.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o
dan eitem 2, ac ystyried a chytuno ar y materion allweddol. |
|
16.00 - 16.30 |
Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Trafod y materion allweddol mewn perthynas ag adroddiad COVID-19 a chydraddoldeb Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1. Bu'r Pwyllgor yn ystyried y materion allweddol ar
gyfer adroddiad ynghylch COVID-19 a chydraddoldeb a chytunodd ar y materion
hynny. |