Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/07/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.50-10.55) |
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): Trefn Ystyried - cytuno mewn egwyddor cyn trafodion Cyfnod 2 Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1. Cytunodd y Pwyllgor ar y drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2 y Bil. |
|
(10.55-11.00) |
Ystyried gohebiaeth gan Archwilio Cymru ynghylch Adran 118 o Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Archwilio Cymru
ynghylch Adran 118 o Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). |
|
(11.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r cyfarfod. 3.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei
fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu
iechyd y cyhoedd. 3.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe
bai'n gadael y cyfarfod am ryw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros
Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 3.4 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Caroline
Jones AS. |
|
(11.00-12.30) |
Ymchwiliad i effaith Covid-19: sesiwn dystiolaeth ar lywodraeth leol Y Cynghorydd
Andrew Morgan, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Y Cynghorydd
Emlyn Dole, Arweinydd Grŵp
Plaid Cymru CLlLC Y Cynghorydd
Peter Fox, Arweinydd Grŵp
Ceidwadol CLlLC Y Cynghorydd Hugh
Evans, Arweinydd Grŵp
Annibynnol CLlLC Chris Llewelyn,
Prif Weithredwr, CLlLC Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan:
4.2 Yn ystod y
cyfarfod, cytunodd y tystion i wneud y canlynol:
|
|
(12.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y
Pwyllgor y cynnig. |
|
(12.30-12.45) |
Ymchwiliad i effaith COVID-19: trafod y dystiolaeth. Cofnodion: 6.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan Eitem 4. |