Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video Conference via Zoom

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/05/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

1.3 Dywedodd y Cadeirydd, pe bai’n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Dawn Bowden AS yn dod yn Gadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

1.4 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Huw Irranca-Davies AS.

 

 

(14.00-15.00)

2.

COVID-19 a’i effaith ar faterion sy’n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor - sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog

Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Alyson Francis, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gymunedau, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

·       Alyson Francis, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gymunedau, Llywodraeth Cymru

 

2.2       Yn ystod y cyfarfod cytunodd y Gweinidog i:

·       Rannu data ar gyfraddau marwolaethau COVID-19 yn ôl rhyw, ethnigrwydd a galwedigaeth.

·       Darparu’r ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chymorth i Fenywod Cymru ynghylch cyllid ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig.

·       Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y grŵp cyllido cynaliadwy.

·       Darparu data ar y sector gwirfoddol yng Nghymru a’i symudiadau ers dechrau’r achosion o COVID-19.

 

 

(15.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(15.00-15.30)

4.

COVID-19 a’i effaith ar faterion sy’n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.

 

 

(15.30-15.35)

5.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - trafod yr amserlen ddiwygiedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer y Bil Llywodraeth Lleol ac Etholiadau (Cymru) a chytunodd arni.