Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cyfarfod cydamserol y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

 

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd Llyr Gruffydd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Aelodau i gyfarfod ar y cyd y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

(13.30-14.10)

2.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: Asesiadau effaith sy'n cyd-fynd â'r cyllidebau drafft (Sesiwn dystiolaeth 1)

Ruth Coombs, Pennaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru

Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Rachel Thomas, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddusm, Comisiynydd Plant Cymru

 

Dogfennau atodedig:

Papur 1 - Tystiolaeth ysgrifenedig: Comisiynydd Plant Cymru.

Papur 2 - Tystiolaeth ysgrifenedig: Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Briff Ymchwil

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Ruth Coombs, Pennaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru;

·         Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru; a

·         Rachel Thomas, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus, Comisiynydd Plant Cymru.

 

(14.15-15.15)

3.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: Asesiadau effaith sy'n cyd-fynd â'r cyllidebau drafft (Sesiwn dystiolaeth 2)

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Julie James AC, Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys, Llywodraeth Cymru

Matt Wellington, Pennaeth Cyfnodi a Dadansoddi y Rhaglen Lywodraethu, Llywodraeth Cymru

Paul Dear, Pennaeth Cydraddoldeb, Llywodraeth Cymru

Anthony Jordan, Pennaeth Gweithredu Rhaglen Deddfwriaethol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfen atodedig:

Papur 3 - Papur tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid;

·         Julie James AC, Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip;

·         Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys, Llywodraeth Cymru;

·         Matt Wellington, Pennaeth Cofnodi a Dadansoddi y Rhaglen Lywodraethu, Llywodraeth Cymru;

·         Paul Dear, Pennaeth Cydraddoldeb, Llywodraeth Cymru; ac

·         Anthony Jordan, Pennaeth Gweithredu Rhaglen Ddeddfwriaethol, Llywodraeth Cymru.

3.2 Cafodd yr Aelodau gopi caled gan Arweinydd y Tŷ o drosolwg o broses Asesiad Effaith Integredig Llywodraeth Cymru.

 

(15.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.15-15.30)

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: Asesiadau effaith sy'n cyd-fynd â'r cyllidebau drafft (Trafod y dystiolaeth)

Cofnodion:

5.1 Cytunodd yr Aelodau a oedd yn cynrychioli pob un o'r tri phwyllgor y byddant yn trafod y dystiolaeth a gasglwyd yn y sesiwn hon ac yn cynhyrchu allbwn ar y cyd maes o law i lywio Cyllideb Ddrafft 2020-21 Llywodraeth Cymru a chyllidebau drafft yn y dyfodol.