Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel
HTML (999KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1.
Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhianon Passmore AC. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 3, 6 a 7 o'r cyfarfod Cofnodion: 2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(09.00 - 10.00) |
Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): Brîff technegol Gareth Howells, y Gwasanaethau Cyfreithiol, Comisiwn y
Cynulliad Joanne McCarthy, y Gwasanaeth Ymchwil, Comisiwn y
Cynulliad Cofnodion: 3.1 Derbyniodd y Pwyllgor frîff technegol ar y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus (Cymru) gan Gomisiwn y Cynulliad. |
|
(10.00 - 11.30) |
Craffu ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19: sesiwn dystiolaeth 1 Y Cynghorydd
Anthony Hunt, llefarydd ar Gyllid ac Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Steve Thomas CBE,
Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Jon Rae,
Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Steve Jones,
Cadeirydd Cymdeithas Trysoryddion Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
4.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, gofynnwyd am wybodaeth bellach gan y tîm
clercio ar y rhagolwg cyllideb llywodraeth leol bedair blynedd yn Lloegr. 4.3 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Steve Thomas, Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru, i ddarparu:
|
|
Papur(au) i'w nodi |
||
Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch gwneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau
a Phlant ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel. |
||
Llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ynghylch gwneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a
Phensiynau ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel. |
||
Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol at Siân Gwenllian ynghylch gwneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol at Siân
Gwenllian ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel. |
||
Gohebiaeth oddi wrth Puffin Produce Ltd ynghylch gwneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.4.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Tinopolis Cymru ynghylch gwneud
i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel. |
||
Gohebiaeth oddi wrth Puffin Produce Ltd ynghylch gwneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.4.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Puffin Produce Ltd ynghylch gwneud
i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel. |
||
(11.35 - 11.50) |
Craffu ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19: trafod tystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 4 Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 4 a chytunodd
ar nifer o faterion i'w codi yn ystod y sesiwn dystiolaeth a fydd yn digwydd ar
y gyllideb ddrafft gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. |
|
(11.50 - 12.10) |
Ymchwiliad i Hawliau Dynol yng Nghymru: papur opsiynau Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y papur opsiynau a chytunodd ar nifer o gamau i'w
cymryd. |