Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/07/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

1.2. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd iddo bennu na allai’r cyhoedd fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor, er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.

1.3. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai'n gadael y cyfarfod am ryw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

1.4. Dirprwyodd David Melding AS ar ran Mark Isherwood AS yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

(14.00 - 15.00)

2.

Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): sesiwn dystiolaeth 6

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Simon White, Pennaeth Strategaeth Tai a Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru

 

Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

·       Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

·       Simon White, Pennaeth Strategaeth Tai a Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 14 Medi 2020

Cofnodion:

3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(15.00 - 16.00)

4.

Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a thrafod y materion allweddol

Cofnodion:

4.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2, ac ystyried a chytuno ar y materion allweddol.

 

16.00 - 16.30

5.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Trafod y materion allweddol mewn perthynas ag adroddiad COVID-19 a chydraddoldeb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1. Bu'r Pwyllgor yn ystyried y materion allweddol ar gyfer adroddiad ynghylch COVID-19 a chydraddoldeb a chytunodd ar y materion hynny.