Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

1.2     Croesawyd Sian Gwenllian i'r Pwyllgor gan Bethan Jenkins, y Cadeirydd, a diolchwyd i Dai Lloyd am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor.

Trawsgrifiad

         

Gweld trawsgrifiad o drafodion y cyfarfod (PDF 637KB) Gweld fel HTML (378KB).

(09:30 - 10:15)

2.

Craffu cyffredinol: Comisiynydd y Gymraeg - Adroddiad Blynyddol

Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg

Dyfan Sion, Cyfarwyddwr Strategol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

2.2 Gofynnodd Sian Gwenllian am bapur gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch ei safbwynt am y cynnydd o ran cael dau gorff; un i ganolbwyntio ar reoleiddio a'r llall i ganolbwyntio ar faterion strategol.

2.3 Pwysleisiodd Meri Huws yr angen i graffu ar ddefnydd y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar ac mewn prentisiaethau. Cyfeiriodd Dyfan Sion at friff a gâi ei gyhoeddi, y gellid ei rannu â'r Pwyllgor yn cynnwys y wybodaeth hon.

2.4 Gofynnodd Lee Waters am gadarnhad ynghylch nifer y cwynion unigol a gafwyd. Dywedodd Meri Huws y byddai'n rhoi'r wybodaeth hon i'r Pwyllgor.

 

 

(10:25 - 11:10)

3.

Craffu cyffredinol: Comisiynydd y Gymraeg - Adroddiad Sicrwydd

Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg

Gwenith Price, Cyfarwyddwr Strategol

Guto Dafydd, Uwch Swyddog Cydymffurfio

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Nododd yr aelodau y papurau.

4.1

Llythyr gan yr Adran dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

(11:10 - 11:30)

6.

Ôl-drafodaeth breifat

(11:30 - 12:00)

7.

Newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru: Papur ar y materion allweddol

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau'r papur a phenderfynwyd y dylid ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch dyraniad y gyllideb arfaethedig newydd i Newyddiaduraeth Newyddion.