Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/12/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.00)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 3, 6 a 7 o gyfarfod heddiw a'r cyfarfod ar 12 Rhagfyr 2018 i drafod yr adroddiad drafft ar Fil Amaethyddiaeth y DU

Cofnodion:

2.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 3,6 a 7 yng nghyfarfod heddiw ac ar gyfer y cyfarfod ar 12 Rhagfyr 2018 i drafod yr adroddiad drafft ar Fil Amaethyddiaeth y DU.

 

(09.00-09.30)

3.

Sesiwn friffio ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Amaethyddiaeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Cafodd y Pwyllgor frîff llafar ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Amaethyddiaeth y DU gan y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Gwasanaeth Ymchwil. 

 

(09.30-10.30)

4.

Trafod Bil Amaethyddiaeth y DU: sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Tim Render, Cyfarwyddwr Arweiniol dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru

Peter McDonald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Diwygio Rheoli Tir, Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.

5.2 Gwahoddodd y Cadeirydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i rannu unrhyw sylwadau ychwanegol gyda'r Pwyllgor i lywio ei adroddiad ar Fil Amaethyddiaeth y DU.

5.3 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i rannu'r ohebiaeth gan y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ynghylch trefniadau Sefydliad Masnach y Byd gyda'r Pwyllgor cyn gynted ag y bo'n dod i law.

 

(10.30)

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.2 Nododd y Pwyllgor y papurau o dan eitem 5.

 

5.1

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Llywydd ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Amaethyddiaeth y DU

Dogfennau ategol:

5.2

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghylch y Cynllun Nwyddau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

5.3

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar ôl y sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet yn y cyfarfod Pwyllgor ar 8 Tachwedd 2018

Dogfennau ategol:

5.4

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynullnio a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynghylch Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2018

Dogfennau ategol:

(10.30-10.45)

6.

Blaenraglen waith

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu ar adfer bioamrywiaeth a chytunodd arno. Cytunodd hefyd i ymgymryd ag ymchwiliad yn ystod tymor y gwanwyn.

 

(10.45 - 11.15)

7.

Trafod tystiolaeth lafar

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 4.