Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/12/2017 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15 - 09.30)

1.

Rhag-gyfarfod preifat

(09.30 - 09.50)

2.

Ymchwiliad i 'dai carbon isel: yr her' - trafod tystiolaeth ysgrifenedig

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth ysgrifenedig a chytunwyd i gynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn nhymor y gwanwyn.

 

(09.50 - 10.20)

3.

Ymweliad y Pwyllgor â Senedd a Llywodraeth yr Alban - trafod y canfyddiadau a'r camau nesaf

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau’r ymweliad a chytunodd i gadw mewn cysylltiad â phwyllgorau cymheiriaid yn neddfwrfeydd eraill y DU.

 

4.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC, Dawn Bowden AC a Jayne Bryant AC.

 

Croesawodd y Cadeirydd Joyce Watson AC i'r Pwyllgor a diolchodd i Jenny Rathbone AC am ei chyfraniad at waith y Pwyllgor.

 

(10.20 - 11.10)

5.

Ymchwiliad i ynni cymunedol - sesiwn tystiolaeth lafar

Merlin Hyman - Prif Weithredwr, Regen South West

Robert Proctor - Rheolwr Datblygu Busnes, Ynni Cymunedol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Merlin Hyman a Robert Proctor eu hunain gan ateb cwestiynau gan yr Aelodau.

 

(11.20 - 12.10)

6.

Ymchwiliad i ynni cymunedol - sesiwn tystiolaeth lafar

Holly Cross - Cyfarwyddwr Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian

Benedict Ferguson - Cyfarwyddwr (Trysorydd) Ynni Cymunedol yn Sir Benfro

Grant Peisley - Cyfarwyddwr Cyd Ynni (yn cymryd rhan drwy gynhadledd fideo)

Jenny Wong – Coetir Mynydd (Consortiwm Cyd Ynni) (yn cymryd rhan drwy gynhadledd fideo)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Benedict Ferguson, Holly Cross, Grant Peisley a Jenny Wong eu hunain gan ateb cwestiynau gan yr Aelodau.

 

(12.10 - 12.15)

7.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papurau.

 

7.1

Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, a Gweinidog yr Amgylchedd ynghylch adroddiad y Pwyllgor, 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetir'

Dogfennau ategol:

7.2

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynglŷn â gweithdy Polisi Cyfoeth Naturiol y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

7.3

Llythyr gan Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch gwaredu gwaddod wedi'i dreillio ar y môr o dan drwydded forol 12/45/ML.

Dogfennau ategol:

7.4

Llythyr gan Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn craffu blynyddol ar Gyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol:

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 9 o'r cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.15 - 12.30)

9.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i ofyn i Lywodraeth Cymru am wybodaeth ynghylch y canlynol:

 

-        Dadelfennu targedau cenedlaethol ar gyfer ynni cymunedol i'r lefel leol

-        Cynyddu’r gefnogaeth i Ynni Lleol a rhoi sicrwydd hirdymor iddo.

-        Egluro'r trothwyon a'r cymhwyster ar gyfer esemptiadau Ardrethi Busnes ar gyfer prosiectau ynni cymunedol

-        Pa un a yw'n bwriadu cyhoeddi, yn flynyddol, faint o ynni cymunedol sy'n cael ei gynhyrchu gan awdurdodau lleol.