Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig: Drafft
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 14/07/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu
iechyd y cyhoedd. 1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe
bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn
Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Nododd y Cadeirydd ymddiheuriadau gan Hefin David AS.
Dirprwyodd Jack Sargeant AS ar ei ran. |
|
(09.30 - 11.00) |
Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 1 gyda chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru Kirsty Williams
AS, y Gweinidog Addysg Claire Bennett, Cyfarwyddwr – Cymunedau a Threchu Tlodi Ceri
Planchant, Cyfreithiwr Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog
Addysg. 2.2 Nododd y Pwyllgor ei fwriad i ysgrifennu at y
Gweinidog i ofyn am eglurhad pellach o ddarpariaethau'r Bil yn ymwneud â
Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh), yn
enwedig y camau a gymerwyd i sicrhau eu bod yn gydnaws â deddfwriaeth hawliau
dynol. |
|
(11.00) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Lywodraeth Cymru - Effaith Covid-19 ar iechyd corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon at Brif Weinidog Cymru ynghylch gofal plant ar gyfer gweithwyr allweddol yn ystod gwyliau’r haf Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg ynghylch addysg ddewisol yn y cartref Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru at y Gweinidog Addysg ynghylch y disgwyliadau o ran darpariaeth ysgolion yn nhymor yr hydref Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru at y Prif Weinidog ynghylch plant a mesurau i lacio ar y cyfyngiadau yn sgil COVID-19 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru at bob undeb addysgu yng Nghymru ynglŷn â rôl yr undebau ac ailagor ysgolion yn nhymor yr hydref Dogfennau ategol: |