Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jon Antoniazzi
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod (PDF 470KB) Gweld
fel HTML (199KB) |
||
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09.30 - 11.00) |
Sesiwn graffu gyffredinol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Steve Davies, Cyfarwyddwr - yr Is-Adran Addysg Huw Morris, Cyfarwyddwr - yr Is-Adran Sgiliau, Addysg
Uwch a Dysgu Gydol Oes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor ar nifer yr
unigolion y disgwylir iddynt gael budd o'r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth
Addysgol. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i anfon ymatebion ysgrifenedig at y
Pwyllgor ar gyfer y cwestiynau na chawsant eu gofyn. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion: Nodwyd y papurau. |
||
Llythyr oddi wrth Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes – 1. Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth y Cadeirydd at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes – 2. Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid – 3. Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Pwyllgor Busnes – 4. Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes – 5. Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes – Grŵp Arbenigol Iechyd Anghenion Dysgu Ychwanegol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Fframwaith Diwygiedig ar gyfer Gwasanaeth Nyrsio mewn Ysgolion i Gymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes – Gwaith Ieuenctid Dogfennau ategol: |
||
(11.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a'r cyfarfod ar 22 Mehefin Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.15 - 11.45) |
Ystyried blaenraglen waith y Pwyllgor Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y flaenraglen waith. Cytunwyd ar gylch gorchwyl yr
ymchwiliadau i wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed a chyllid wedi'i
dargedu i wella canlyniadau addysgol. Caiff yr ymchwiliad i wasanaethau iechyd
meddwl plant a'r glasoed ei lansio cyn toriad yr haf. Cytunwyd mynd ati i gasglu tystiolaeth lafar yn nhymor yr hydref ar gyfer
dau ymchwiliad ar y 1,000 diwrnod cyntaf – Dechrau'n Deg a'r gweithlu. |