Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld
trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 337 KB) Gweld
fel (HTML 299 KB) |
||
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Michelle Brown
a John Griffiths. Dirprwyodd Mike Hedges ar ran John Griffiths. |
|
(09.30 - 10.20) |
Ymchwiliad i'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig - sesiwn dystiolaeth 1 Estyn Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd EM Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol Farrukh Khan, Arolygydd EM Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Estyn. Cytunodd Estyn i ddarparu nodyn
ar ysgolion nad oedd yn dilyn arfer gorau o ran cefnogi disgyblion sipsiwn. |
|
(10.20 - 11.00) |
Ymchwiliad i'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig - sesiwn dystiolaeth 2 Dr Jonathan Brentnall, Ymgynghorydd Addysg Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Jonathan Brentnall. |
|
(11.10 - 12.00) |
Ymchwiliad i ddarpariaeth eiriolaeth statudol - sesiwn dystiolaeth 3 Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru Phil Evans, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Bro Morgannwg Tanya Evans, Pennaeth Gwasanaethau Plant ym Mlaenau Gwent a Chadeirydd
Penaethiaid Cymru Gyfan o Wasanaethau Plant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a
Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Cytunodd y ddwy
gymdeithas i ddarparu proffil cyllideb tair blynedd ar gyfer gweithredu'r
cynllun Eiriolaeth Genedlaethol. |
|
(12.00) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: Nodwyd y papur. |
|
Llythyr at y Pwyllgor Busnes ynghylch yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.00 - 12.25) |
Adroddiad Drafft ar yr Ymchwiliad Gwaith Ieuenctid Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân
newidiadau. |
|
(12.25 - 12.45) |
Blaenraglen waith y Pwyllgor - cytuno ar yr ymchwiliad nesaf Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith. Cytunodd y Pwyllgor i gynnal
rhywfaint o waith ar hyfforddiant athrawon, sef 'y 1000 diwrnod cyntaf', a
chytunodd i barhau â'i waith ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc. |