Grant gwella addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig
Inquiry5
Cynhaliodd y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a
Phlant o Leiafrifoedd Ethnig.
Nod cyffredinol yr ymchwiliad hwn oedd ystyried yr
effaith ar blant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig yn
sgil uno grantiau a oedd wedi'u neilltuo cyn hynny yn un Grant Gwella Addysg
newydd o 2015-16. Roedd yr ymchwiliad yn canolbwyntio'n benodol ar eu
deilliannau addysgol ac yn ystyried:
- Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro'r ffordd y mae
awdurdodau lleol yn defnyddio'r Grant Gwella Addysg a sut y mae'r grant
cyfun newydd yn cefnogi plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o
leiafrifoedd ethnig, gan gyfeirio'n benodol at wella deilliannau addysgol;
- effeithiolrwydd polisïau a strategaethau eraill
Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi addysg plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr,
a phlant o leiafrifoedd ethnig; ac
- unrhyw faterion allweddol sy'n codi yn sgil uno'r
grantiau a oedd yn arfer bod ar wahân yn un Grant Gwella Addysg.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor ei adroddiad ar ganfyddiadau'r ymchwiliad:
Grant
Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig
(PDF, 955KB).
Mae ymateb
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i’r ymchwiliad wedi cael ei gyhoeddi (PDF
407KB).
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/10/2016
Dogfennau
Ymgynghoriadau