Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/11/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i’r cyfarfod. 1.2
Daeth ymddiheuriadau i law gan
Gareth Bennett AS a Rhianon Passmore AS. |
|
(10.00 - 11.00) |
Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Papur briffio gan
y Gwasanaeth Ymchwil Andrew Slade –
Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp
Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru Simon Jones –
Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru Steve Vincent –Dirprwy
Gyfarwyddwr yr Is-Adran Rheoli Seilwaith yr Economi, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu’r Pwyllgor yn holi Andrew Slade, Cyfarwyddwr
Cyffredinol, Grŵp yr Economi,
Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Simon Jones, Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd a
Steve Vincent, Dirprwy Gyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru ar
Faes Awyr Caerdydd. 2.2 Dywedodd Simon Jones wrth y Pwyllgor ei fod wedi
ymddiswyddo fel Cadeirydd Holdco o 30 Medi 2020 ymlaen a bod trefniadau ar y
gweill i benodi olynydd. |
|
(11.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem pump (4): Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.00 - 12.30) |
Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 4.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio breifat ar faterion
masnachol sensitif yn ymwneud â Maes Awyr Caerdydd gan swyddogion Llywodraeth
Cymru. 4.2 Cytunodd Andrew Slade i anfon nodyn ar sut mae'r llog
ar y benthyciadau masnachol yn cael ei reoli, ynghyd â chanlyniad y broses –
sy’n mynd rhagddi ar hyn o bryd – i benodi Cadeirydd newydd Holdco. 4.3 Ystyriodd yr aelodau’r dystiolaeth a ddaeth i law, a
chytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi barn
y Pwyllgor. Cytunodd yr Aelodau hefyd y dylai'r Adroddiad Etifeddiaeth argymell
bod y Pwyllgor olynol yn y 6ed Senedd yn parhau i fonitro materion sy’n ymwneud
â Maes Awyr Caerdydd. |