Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/11/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Daeth ymddiheuriadau i law gan Gareth Bennett AS a Rhianon Passmore AS.

 

(10.00 - 11.00)

2.

Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Andrew Slade – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

Simon Jones – Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru

Steve Vincent –Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Rheoli Seilwaith yr Economi, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn holi Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Simon Jones, Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd a Steve Vincent, Dirprwy Gyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr Caerdydd.

2.2 Dywedodd Simon Jones wrth y Pwyllgor ei fod wedi ymddiswyddo fel Cadeirydd Holdco o 30 Medi 2020 ymlaen a bod trefniadau ar y gweill i benodi olynydd.

 

(11.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem pump (4):

 

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.00 - 12.30)

4.

Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

4.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio breifat ar faterion masnachol sensitif yn ymwneud â Maes Awyr Caerdydd gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

4.2 Cytunodd Andrew Slade i anfon nodyn ar sut mae'r llog ar y benthyciadau masnachol yn cael ei reoli, ynghyd â chanlyniad y broses – sy’n mynd rhagddi ar hyn o bryd – i benodi Cadeirydd newydd Holdco.

4.3 Ystyriodd yr aelodau’r dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi barn y Pwyllgor. Cytunodd yr Aelodau hefyd y dylai'r Adroddiad Etifeddiaeth argymell bod y Pwyllgor olynol yn y 6ed Senedd yn parhau i fonitro materion sy’n ymwneud â Maes Awyr Caerdydd.