Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/06/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2        Arweiniodd y Cadeirydd deyrngedau i'r diweddar Mohammad (Oscar) Asghar AS a fu farw, yn anffodus, ar 16 Mehefin 2020.

1.3        Cafwyd munud o dawelwch.

 

(13.30 - 15.00)

2.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: COVID-19: effeithiau ar Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Tracey Burke – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

Claire Bennett - Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru

Reg Kilpatrick - Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Emma Williams - Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Holodd yr Aelodau Tracey Burke, Claire Bennett, Reg Kilpatrick ac Emma Williams fel rhan o'u hymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru

2.2 Cytunodd Tracey Burke i anfon gwybodaeth ychwanegol at y Pwyllgor ynghylch nifer o bwyntiau gweithredu.

 

(15.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 4

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.10 - 16.00)

4.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.