Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/09/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(15.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

1.2       Croesawodd y Cadeirydd Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, i'w gyfarfod ffurfiol cyntaf o'r Pwyllgor.

1.3       Dirprwyodd Mike Hedges AC ar ran Rhianon Passmore AC. 

 

(15.15 - 16.45)

2.

Cyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-24-18 Papur 1 – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru 2017-18

PAC(5)-24-18 Papur 2 – Memorandwm Atodol Archwilydd Cyffredinol Cymru i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Contractau Gwerthiant Pren a ddyfarnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru

PAC(5)-24-18 Papur 3 – Ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Blynyddol 2015-16: Cynllun gweithredu wedi’i diweddaru.

 

Clare Pillman – Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru

Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru

Peter Garson, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol, Cyfoeth Naturiol Cymru

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Aelodau'n craffu ar Clare Pillman, Prif Weithredwr, Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, a Peter Garson, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol, Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghylch Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18.

2.2 Cytunodd Clare Pillman i anfon manylion am:

·        faint o’r pren a gynhyrchwyd yng Nghymru a broseswyd yng Nghymru yn 2017-18; a

·        sut y cyfrifwyd cytundeb setliad y Prif Weithredwr blaenorol a phwy a gymeradwyodd y cytundeb hwn.

 

 

 

(16.45)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 5 ac eitemau 1 a 2 y cyfarfod a gynhelir ar 1 Hydref 2018

 

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.45 - 17.15)

4.

Cyfoeth Naturiol Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.