Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/09/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(15.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r
Pwyllgor. 1.2 Croesawodd y Cadeirydd Adrian Crompton,
Archwilydd Cyffredinol Cymru, i'w gyfarfod ffurfiol cyntaf o'r Pwyllgor. 1.3 Dirprwyodd Mike Hedges AC ar ran Rhianon
Passmore AC. |
|
(15.15 - 16.45) |
Cyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18 Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-24-18
Papur 1 – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru
2017-18 PAC(5)-24-18
Papur 2 – Memorandwm Atodol Archwilydd Cyffredinol Cymru i'r Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus: Contractau Gwerthiant Pren a ddyfarnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru PAC(5)-24-18 Papur 3 – Ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Blynyddol 2015-16: Cynllun gweithredu wedi’i
diweddaru. Clare
Pillman – Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru Kevin
Ingram, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfoeth
Naturiol Cymru Peter
Garson, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol, Cyfoeth Naturiol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Bu'r
Aelodau'n craffu ar Clare Pillman, Prif Weithredwr, Kevin Ingram, Cyfarwyddwr
Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, a Peter Garson, Pennaeth
Gweithrediadau Masnachol, Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghylch Adroddiad Blynyddol
a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18. 2.2 Cytunodd Clare Pillman i anfon manylion am: ·
faint o’r
pren a gynhyrchwyd yng Nghymru a broseswyd yng Nghymru yn 2017-18; a ·
sut y
cyfrifwyd cytundeb setliad y Prif Weithredwr blaenorol a phwy a gymeradwyodd y
cytundeb hwn. |
|
(16.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 5 ac
eitemau 1 a 2 y cyfarfod a gynhelir ar 1 Hydref 2018 Cofnodion: 3.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.45 - 17.15) |
Cyfoeth Naturiol Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 4.1
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |