Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 05/03/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.15 - 13.45) |
Rheoli Meddyginiaethau: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-06-18
Papur 1 – Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1 Gwnaeth yr Aelodau drafod a derbyn yr adroddiad drafft. |
|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lee Waters AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran. |
|
(14.00 - 14.05) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Caffael Cyhoeddus: Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol (14 Chwefror) Dogfennau ategol: |
||
Caffael Cyhoeddus: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (19 Chwefror) Dogfennau ategol: |
||
(14.05 - 15.30) |
Caffael Cyhoeddus: Sesiwn Dystiolaeth 4 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-07-08 Papur 2 – Llywodraeth Cymru Andrew Slade – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi,
Sgiliau ac Adnoddau Naturiol Sue Moffatt – Cyfarwyddwr Masnachol, Llywodraeth Cymru
a Cyfarwyddwr - Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Jonathan Hopkins - Pennaeth Caffael, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Derbyniodd yr Aelodau dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr
Cyffredinol, Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol; Sue Moffatt, Cyfarwyddwr
Masnachol, Llywodraeth Cymru a Chyfarwyddwr - Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol;
a Jonathan Hopkins, Pennaeth Caffael, Llywodraeth Cymru fel rhan o'u
hymchwiliad i gaffael cyhoeddus. 4.2 Cytunodd Andrew Slade i anfon rhagor o wybodaeth ar nifer o bwyntiau a
godwyd. |
|
(15.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 6 a'r cyfarfod a gynhelir ar 12 Mawrth 2018 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.30 - 16.00) |
Caffael Cyhoeddus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |