Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 05/02/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd
unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(13.00) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papurau. |
|
(13.05 - 14.00) |
Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Briff Ymchwil Shan Morgan – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau
a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru Andrew Jeffreys - Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Bu'r Pwyllgor yn holi Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru;
Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol,
Llywodraeth Cymru; ac Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth
Cymru, ynghylch cyllid
cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru. 3.2 Cytunodd
yr Ysgrifennydd Parhaol i
ysgrifennu at y Cadeirydd i egluro nifer o bwyntiau a godwyd yn ystod y sesiwn
dystiolaeth. |
|
(14.00) |
Caffael Cyhoeddus: Gohebiaeth y Pwyllgor PAC(5)-04-18 PTN
1– Ymchwiliad i Gaffael Cyhoeddus: Ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru PAC(5)-04-18 PTN
2 - Ymchwiliad i Gaffael Cyhoeddus: Ymateb gan Partneriaeth Cydwasanaethau GIG
Cymru PAC(5)-04-18 PTN 3
- Ymchwiliad i Gaffael Cyhoeddus: Ymateb gan Lywodraeth Cymru PAC(5)-04-18 PTN
4 - Ymchwiliad i Gaffael Cyhoeddus: Ymateb gan Gymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru PAC(5)-04-18 PTN
5 - Ymchwiliad i Gaffael Cyhoeddus: Ymateb gan Jayne Lynch – Prifysgol Caerdydd PAC(5)-04-18 PTN
6 - Ymchwiliad i Gaffael Cyhoeddus: Ymateb gan Gonsortiwm Pwrcasu Addysg Uwch,
Cymru (HEPCW) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Nodwyd yr ymatebion. |
|
(14.05 - 14.50) |
Caffael Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth 1 Briff Ymchwil PAC(5)-04-18 Papur 1 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili PAC(5)-04-18 Papur 2 – Cyngor Caerdydd Liz Lucas – Pennaeth Caffael, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Steve Robinson - Pennaeth Caffael, Cyngor Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Liz Lucas, Pennaeth Caffael Cyngor
Bwrdeistref Sirol Caerffili, a Steve Robinson, Pennaeth Caffael Cyngor
Caerdydd, fel rhan o'r ymchwiliad i gaffael cyhoeddus. 5.2 Cytunodd Liz Lucas i anfon gwybodaeth am y mathau o nwyddau a
gwasanaethau y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi'u prynu drwy
fframwaith Gwasanaeth Masnachol y Goron ac am werth y nwyddau a'r gwasanaethau
hyn. |
|
(15.00 -15.50) |
Caffael Cyhoeddus: Sesiwn Dystiolaeth 2 (Drwy fideogynhadledd) PAC(5)-04-18 Papur 2 – Cyngor Sir Ddinbych Mike Halstead – Pennaeth Archwilio a Chaffael, Cyngor Bwrdeistref Sirol
Conwy Arwel Staples – Rheolwr Caffael Strategol, Cyngor Sir Ddinbych Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mike Halstead, Pennaeth Archwilio a
Chaffael Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac Arwel Staples, Rheolwr Caffael
Strategol Cyngor Sir Ddinbych, fel rhan o'r ymchwiliad i gaffael cyhoeddus. |
|
(15.50 - 16.40) |
Caffael Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth 3 PAC(5)-04-18 Papur 3 - Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru Sophie Howe – Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru Dr Eurgain Powell - Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sophie Howe, Comisiynydd
Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, a Dr Eurgain Powell o Swyddfa Comisiynydd
Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i gaffael cyhoeddus. |
|
(16.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitemau 9 a 10 ac Eitemau 1 a 2 y cyfarfod ar 12 Chwefror 2018 Cofnodion: 8.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.40 - 16.50) |
Caffael Cyhoeddus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 9.1 Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(16.50 - 17.00) |
Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 10.1 Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd yr Aelodau y
dylai’r Clercod baratoi adroddiad drafft y byddant yn ei drafod ynghyd â'r
wybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. |